Llywodraeth Cymru yn ymddiheuro am fabwysiadu gorfodol
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymddiheuro'n ffurfiol yn y Senedd i famau am fabwysiadu gorfodol.
Cafodd miloedd o fenywod di-briod eu gorfodi i ffarwelio â'u plant yn y 1950au, 60au a'r 70au.
Mae'n debygol y cafodd miloedd o blant yng Nghymru eu mabwysiadu yn orfodol. Fe wnaeth ymchwiliad yn Nhŷ'r Cyffredin amcangyfrif bod hyn wedi digwydd i 185,000 o fabanod ledled Cymru a Lloegr.
Fe wnaeth Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ymddiheuro am y methiannau mewn cymdeithas a arweiniodd at hynny.
'Yn wirioneddol edifar'
Meddai, Ms Morgan, "does dim gwahaniaeth am y pwysau cymdeithasol ar y pryd, nac ychwaith beth oedd yn cael ei ystyried yn arferol mewn cymdeithas, ni ddylai'r fath greulondeb byth fod yn rhan dderbyniol o'n cymdeithas ni yma yng Nghymru.
"Hoffwn i rannu fy nghydymdeimlad diffuant â phawb yr effeithiwyd arnyn nhw.
"Mae'n destun gofid mawr imi, oherwydd bod cymdeithas wedi troi ei chefn arnoch chi, eich bod chi wedi gorfod profi'r arferion arswydus hyn a oedd ar waith yng Nghymru yn y gorffennol - mae pawb yn Llywodraeth Cymru yn wirioneddol edifar am hyn."
Fe wnaeth y gwrthbleidiau yn y Senedd gefnogi ymddiheuriad Julie Morgan yn y Senedd ddydd Mawrth.
Dywedodd Gareth Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar wasanaethau cymdeithasol: "Roedd hon yn sefyllfa gwbl erchyll, un na ddylai fod wedi digwydd ac na ddylai byth ddigwydd eto."
Dywedodd Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru ar blant a phobl ifanc: "Mae hon yn foment bwysig a gobeithio y bydd yn rhoi cysur i'r bobl hynny sy'n dioddef trawma a dioddefaint parhaus."
'Diwrnod i ddathlu'
Dywedodd Anne Jones, sydd wedi bod yn ymgyrchu am ymddiheuriad, ei fod yn "ddiwrnod i ddathlu" ond ei bod yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU hefyd yn ymddiheuro.
Daw ymddiheuriad Llywodraeth Cymru fis wedi i gyn-Brif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, gyhoeddi ymddiheuriad "diffuant, o'r galon".
Fe ymddiheurodd Awstralia yn 2013, ond dyw Llywodraeth y DU ddim wedi gwneud yr un peth eto.
Cafodd Anne Jones ei mabwysiadu yn fabi yn y 1950au. Ganwyd hi tu allan i briodas gan Katie Green o Gaernarfon yn 36 oed.
Dywedodd wrth BBC Cymru y llynedd nad oedd gan ei mam "unrhyw ddewis" ond rhoi'r gorau iddi oherwydd "cywilydd" a diffyg cefnogaeth ariannol.
Mae Ms Jones, 71, wedi bod yn rhan o ymgyrch sy'n mynnu ymddiheuriad ffurfiol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Wrth ymateb i'r newyddion am ymddiheuriad yng Nghymru, dywedodd: "Yn amlwg rwy'n falch iawn ei fod yn mynd i ddigwydd o'r diwedd, ond rwy'n siomedig ei fod wedi digwydd yn Yr Alban, mi fydd yn digwydd yng Nghymru, ond dyw e ddim yn digwydd yn y Deyrnas Unedig.
"Bydd pob person sydd wedi cael eu mabwysiadu yn dweud wrthoch chi, dydych chi ddim yn gwybod pwy ydych chi. Ti'n colli'r cysylltiad yna gyda dy deulu.
"Roedd fy mam yn iaith gyntaf Cymraeg, sy'n rhywbeth arall wnes i golli allan arno, achos ges i ddim fy magu yng Nghaernarfon, a chefais i ddim fy magu yn y diwylliant yna. Rydw i wedi colli fy hunaniaeth."
Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn deall pam ei fod wedi cymryd mor hir, ac rwy'n gobeithio na fydd yn cymryd llawer hirach cyn i wasanaethau ar gyfer pobl sy'n cael ei mabwysiadu wella.
"Mae angen cefnogaeth arnom ni.
"Ond mae'n ddiwrnod i ddathlu, a hoffwn pe bai fy mam dal yma i'w weld."
'Cam-drin fel cosb fwriadol'
Dywedodd cydbwyllgor Tŷ'r Cyffredin ar hawliau dynol fod menywod wedi cael eu cywilyddio a'u gorfodi i roi'r gorau i'w babanod.
Cafodd menywod ifanc eu hanfon oddi cartref i guddio eu beichiogrwydd, a threulio wythnosau mewn cartrefi mamau a babanod.
Mae llawer o'r menywod yn dweud eu bod wedi cael eu cam-drin gan weithwyr cymdeithasol, nyrsys a staff eraill, a'u gorfodi i roi genedigaeth heb unrhyw beth i ladd y boen.
Dywedodd mamau eraill wrth yr ymchwiliad eu bod yn teimlo bod eu triniaeth yn ystod ac ar ôl rhoi genedigaeth yn gosb fwriadol am eu beichiogrwydd tra'n ddi-briod.
Gwrthod galwadau'r pwyllgor am ymddiheuriad ffurfiol a wnaeth Llywodraeth y DU, a fu'n llywodraethu'n llawn dros Gymru tan 1999.
Er bod Llywodraeth y DU yn derbyn bod menywod a phlant wedi'u trin yn anghywir ac na ddylai fod wedi digwydd, dywedodd gweinidogion na fyddai ymddiheuriad yn briodol "gan nad oedd y wladwriaeth yn mynd ati i gefnogi'r arferion hyn".
Fodd bynnag dywedodd: "Mae'n ddrwg gennym ar ran y gymdeithas i bawb sydd wedi eu heffeithio.
"Ni allwn ddadwneud y gorffennol, ond mae gwersi wedi'u dysgu o'r amser hynny ac wedi arwain at newidiadau arwyddocaol i ddeddfwriaeth ac yn ymarferol."
'Y wladwriaeth yn rhan o hyn'
Croesawodd Veronica Smith, sylfaenydd y Mudiad dros Ymddiheuriad Mabwysiadu, y cyhoeddiad, gan ddweud y dylai Llywodraeth y DU ddilyn esiampl llywodraethau Cymru a'r Alban.
"Maen nhw'n honni nad oedd y wladwriaeth yn rhan o'r broses ond mae gennym lawer o ymchwil academaidd bod y wladwriaeth yn rhan o hyn," meddai.
Mae cael teuluoedd i dderbyn y plant a gafodd eu mabwysiadu yn dal i fod yn broblem meddai.
"Prin yw'r bobl yng Nghymru sydd wedi dod yn eu blaenau ond rydym yn disgwyl llawer mwy i fod allan yna. Mae'n dal i fod yn beth poenus iawn ac mae cywilydd yn rhan o hyn," meddai Ms Smith.
"Bydd yn rhyddhad mawr i'r rhai gafodd eu heffeithio ei fod yn cael ei drafod yn gyhoeddus o'r diwedd."
'Gwaddol parhaol'
Nid oedd Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn bodoli tra bod mabwysiadu gorfodol yn digwydd.
Roedd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, eisoes wedi rhoi ymddiheuriad mewn capasiti personol ym mis Ionawr.
Dywedodd y dirprwy weinidog ar y pryd, er bod arferion mabwysiadu gorfodol cyn amser datganoli yng Nghymru, "mae ganddyn nhw waddol parhaol ar bawb a brofon nhw - i'r rhieni a'r plant".
"Ni allwn newid yr hyn sydd wedi digwydd, ond gallaf roi sicrwydd bod deddfwriaeth ac arferion mabwysiadu wedi'u cryfhau'n sylweddol ers hynny a byddwn yn ymdrechu i ddarparu cymaint o gefnogaeth ag y gallwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd16 Medi 2022
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2021