Carchar am 28 mlynedd am ladd Lola James, merch ddwy oed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio merch ddwy oed yn ei chartref yn Hwlffordd.
Bu farw Lola James yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020 o anaf "catastroffig" i'w phen, ac roedd ganddi 101 o anafiadau allanol.
Cafodd Kyle Bevan, 31, ei ganfod yn euog ddechrau'r mis o ymosodiad "ciaidd" ar Lola, merch ei gymar, tra'i fod yn gofalu amdani ym mis Gorffennaf 2020.
Bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 28 mlynedd dan glo.
Roedd mam Lola, Sinead James, sy'n 30 oed ac o Neyland yn Sir Benfro, wedi ei chael yn euog o achosi neu ganiatáu ei marwolaeth.
Mae hithau wedi cael dedfryd o chwe blynedd o garchar, a bydd yn rhaid iddi dreulio o leiaf hanner hynny dan glo.
Rhyw bum mis ar ôl symud i mewn i gartre'r teulu, fe ymosododd Kyle Bevan ar Lola James gan achosi anafiadau catastroffig i'w hymennydd.
Yn ôl Bevan, o Aberystwyth yn wreiddiol, roedd Lola wedi syrthio i lawr y grisiau.
Ond gwrthod hynny wnaeth y rheithgor gan gytuno â'r erlyniad fod y ferch fach wedi dioddef ymosodiad "ffyrnig a chiaidd".
Clywodd yr achos gan staff ambiwlans ac ysbyty fu'n trin Lola, a dywedodd pob un ohonyn nhw nad oedden nhw'n credu fod ei hanafiadau yn rhai damweiniol.
Yn ogystal â'r anafiadau i'w hymennydd roedd dros 100 o anafiadau ar ei chorff, gydag un meddyg yn dweud mai dyma'r nifer fwyaf o anafiadau roedd hi wedi eu gweld ar gorff erioed.
Roedd y rheithgor wedi clywed am achosion blaenorol o ymddygiad treisgar gan Kyle Bevan pan fyddai'n cymysgu cyffuriau gydag alcohol.
Ar un achlysur aeth Sinead James â'r plant i dŷ ffrind dros nos. Roedd hi wedi mynnu nad oedd yn fygythiad i'r plant, er ei fod weithiau'n codi ofn arni hi.
Clywodd yr achos fod Lola wedi ei hanafu ar fwy nag un achlysur tra bod Kyle Bevan yn gofalu amdani, ond ei fod yn gallu egluro mai damwain oedd hi bob tro.
Dyfarnodd y rheithgor mai celwydd oedd hynny a bod Bevan wedi ymosod ar Lola sawl gwaith gan wybod ei bod hi'n rhy ifanc i fedru dweud beth oedd yn digwydd.
'Chwalu fy nheulu'
Cyn y ddedfryd fe ddarllenodd Nicola James, mam-gu Lola, ddatganiad i'r llys.
Fe ddywedodd hi wrth Kyle Bevan am edrych arni, cyn dweud nad oed yna eiliad lle doedd hi ddim yn meddwl am Lola ac na fyddai hi fyth yn dod i delerau â'r hyn ddigwyddodd iddi.
"Dwi'n beio fy hun am beth ddigwyddodd," dywedodd. "Pam na sylwais i, pam na welais i unrhyw beth?
"Fydd Lola ddim yn cael cyfle i dyfu lan a phrofi'r hyn ddylai hi mewn bywyd, dysgu coginio, plannu pethau yn yr ardd, cael cariad cyntaf a chael ffrog ar gyfer ei chymundeb cyntaf.
"Mae ei dillad hi'n dal yn y cwpwrdd a'i theganau gyda ni, ond dyw hi ddim."
Fe ddisgrifiodd hi Lola fel plentyn annwyl, annibynol a drygionus.
"Kyle, fe gymeraist ti fywyd fy wyres ac fe gymerais di fwy nag y medru di ddychmygu," meddai wrtho.
"Fe laddaist ti ein Lola ni a chwalu fy nheulu. Gobeithio y cei di ddigon o amser nawr i ddeall beth wyt ti wedi ei wneud."
'Gweld ei heisiau bob dydd'
Cafodd datganiad gan dad Lola, Daniel Thomas, ei ddarllen hefyd.
Ynddo dywedodd ei fod yn gweld eisiau Lola bob dydd, ac na fyddai fyth yn ei gweld hi'n tyfu i fod yn ferch yn ei harddegau ac yn ddynes.
"Dwi'n gweld ei heisiau bob dydd, ac mae fy nghalon yn brifo bob dydd," meddai.
"Bydd gweld Lola yng ngwely'r ysbyty yn aros gyda fi am byth."
Wrth gyhoeddi'r dedfrydau yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd y Barnwr Mr Ustus Griffith fod Lola James wedi ei disgrifio fel cymeriad oedd yn caru bywyd, a phlentyn oedd wastad yn hapus gyda chwerthiniad oedd yn ddigon i lonni ystafell gyfan.
"Fe lofruddioch chi hi pan oedd hi ond yn ddwy oed," meddai wrth Kyle Bevan, "gan chwalu teulu a chwalu plentyndod plant eraill.
"Roeddech chi wedi ymosod ar Lola i geisio dangos grym dros blentyn bach diniwed."
Wrth ddedfrydu Sinead James dywedodd nad oedd yn derbyn ei bod wedi diodde trais domestig yn yr achos hwn, er fod Bevan weithiau'n codi ofn arni.
"Fe ddangosoch chi fod y gallu ganddoch chi i fynd â'r plant i rywle diogel, ond roeddech chi'n dewis dychwelyd at Kyle Bevan dro ar ôl tro ac yn gadael y plant gyda fe."
Roedd hi, meddai'r barnwr, yn gwybod fod Bevan yn fygythiad difrifol i'r plant.
'Dyn treisgar a dinistriol'
Yn dilyn y ddedfryd dywedodd John Griffiths o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Roedd Lola yn eneth fach hyfryd a llon a oedd yn llawn egni. Newydd ddechrau oedd ei bywyd pan gafodd y cwbl ei ddwyn oddi wrthi gan y diffinyddion hyn.
"Disgrifiodd Kyle Bevan ei hun fel 'llystad' Lola ond doedd ei weithredoedd yn ddim byd tebyg i weithredoedd tad.
"Achosodd anafiadau i Lola yn y gorffennol, ond y tro hwn bu i'w wylltineb arwain ato yn llofruddio plentyn diamddiffyn dan ei ofal."
Ychwanegodd y dylai Lola fod "wedi bod yn ddiogel yn ei chartref", ond bod Sinead James wedi caniatáu i "ddyn treisgar a dinistriol ddod i'w bywydau".
"Roedd James yn gwbl ymwybodol bod Bevan mewn perygl, ond dewisodd ei gadw yn ei bywyd."
Ychwanegodd: "Mae'r achos hwn wedi bod yn dorcalonnus i nifer, ond heddiw caiff Lola gyfiawnder."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2023