Lola James: Dyn yn euog o lofruddio merch ddwy oed ei gymar
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor yn Llys y Goron Abertawe wedi cael dyn yn euog o lofruddio merch ddyflwydd oed ei gymar.
Roedd Kyle Bevan, 31 oed o Aberystwyth, yn gwadu ymosodiad "ciaidd" ar Lola James tra roedd yn gofalu amdani ym mis Gorffennaf 2020.
Mae mam Lola, Sinead James, sy'n 30 oed ac o Neyland yn Sir Benfro, wedi ei chael yn euog o achosi neu ganiatáu ei marwolaeth.
Bu farw Lola yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020 o anaf "catastroffig" i'w phen, ac roedd ganddi 101 o anafiadau allanol.
Yn ôl Kyle Bevan, roedd hi wedi syrthio i lawr y grisiau, ond gwrthod hynny wnaeth y rheithgor.
Fe gytunon nhw â'r erlyniad fod y ferch fach wedi dioddef ymosodiad "ffyrnig a chiaidd".
Clywodd yr achos gan staff ambiwlans ac ysbyty fu'n trin Lola, a dywedodd pob un nad oedden nhw'n credu bod ei hanafiadau yn rhai damweiniol.
Yn ogystal â'r anafiadau i'w hymennydd, dywedodd un meddyg mai dyna'r nifer fwyaf o anafiadau roedd hi wedi eu gweld ar gorff erioed.
Roedd y rheithgor wedi clywed am achosion blaenorol o ymddygiad treisgar gan Bevan pan fyddai'n cymysgu cyffuriau gydag alcohol.
Ar un achlysur, fe aeth Sinead James â'r plant i dŷ ffrind dros nos.
Roedd hi wedi mynnu nad oedd yn fygythiad i'r plant, er ei fod weithiau'n codi ofn arni hi.
Clywodd y llys fod Lola wedi ei hanafu ar fwy nag un achlysur tra bod Bevan yn gofalu amdani, ond ei fod yn gallu egluro mai "damwain" oedd hi bob tro.
Dyfarnodd y rheithgor mai celwydd oedd hynny a bod Bevan wedi ymosod ar Lola sawl gwaith gan wybod ei bod hi'n rhy ifanc i fedru dweud beth oedd yn digwydd.
Dyfarnodd y rheithgor fod mam Lola, Sinead James, yn euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.
Dywedodd hi wrth y llys na feddyliodd hi erioed y byddai Bevan yn achosi niwed i'w phlant, er ei fod yn ymddwyn yn dreisgar pan ar gyffuriau ac yn codi braw arni.
Fe glywodd yr achos hefyd am neges destun gan fam cyn-bartner Bevan yn rhybuddio ei fod yn beryglus.
Yn ôl yr erlyniad fe ddylai Sinead James fod wedi sylweddoli ei fod yn fygythiad i'r plant ac fe gytunodd y rheithgor â hynny.
Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ar 25 Ebrill.
'Methu disgrifio'r golled'
Mewn datganiad, fe ddywedodd mam-gu Lola, Nicola James, na fydd y teulu fyth yn ei hanghofio.
"Fel teulu, wnawn ni fyth ddod dros hyn, does dim modd disgrifio'r golled ry'n ni'n ei theimlo," meddai.
"Dy'n ni ddim wedi dechrau prosesu hyn i gyd a dy'n ni ddim yn gwybod sut y gwnawn ni.
"Lola, ry'n ni'n dy garu, fe fyddwn ni'n dy garu a dy golli am byth."
Fe ddywedodd tad biolegol Lola mewn datganiad: "Mae'r boen a'r galar dwi'n ei deimlo bob tro dwi'n cau fy llygaid a gweld dy wyneb bach perffaith yn annioddefol.
"Dwi mor sori fod dy fywyd byr wedi ei lenwi â chymaint o boen. Rwyt ti'n cael dy garu gymaint, Lola, ac yn cael dy golli bob dydd."
Wrth gydymdeimlo â'r teulu, fe wnaeth Uwch Swyddog Ymchwilio Heddlu Dyfed-Powys, DCI Gareth Roberts, ddiolch i swyddogion a'r gymuned am eu gwaith a'u cefnogaeth.
"Fe gafodd pryderon eu codi o'r dechrau ac fe ddechreuodd ymchwiliad a oedd yn gymhleth, trwyadl ac heriol yn emosiynol i bawb oherwydd y gamdriniaeth erchyll, amlwg, o blentyn bregus.
"Mae'n glir fod Lola'n cael ei charu ac mae'n drasiedi y bydd yn anodd ei oresgyn, ond gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn dod â rhywfaint o gysur."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2023