Banc bwyd yn helpu perchnogion anifeiliaid anwes

  • Cyhoeddwyd
Un o gathod Miari

Mae elusen yn galw ar berchnogion anifeiliaid anwes sy'n cael trafferthion ariannol i gymryd mantais o'u banc bwyd.

Pryder Blue Cross ydy bod nifer o berchnogion anifeiliaid anwes yn mynd heb fwyd eu hunain, er mwyn sicrhau nad yw eu hanifeiliaid yn llwgu.

Mae nhw ac elusennau eraill yn cynnig bwyd ar gyfer bob mathau o anifeiliaid i berchnogion sy'n methu cadw dau ben llinyn ynghyd.

Er mwyn delio â'r niferoedd cynyddol o anifeiliaid sydd angen eu hailgartrefu, mae'r elusen hefyd yn chwilio am ragor o wirfoddolwyr i'w maethu.

'Nhw yw fy nheulu'

Mae Miari Workman, 50, yn byw yng Nghaerdydd gyda'i merch naw oed a'u pum cath, Bootsie, Wolfie, Luna, Lucy a Lacy.

"Maen nhw'n dod â chwerthin, ac maen nhw'n dod â llawenydd a chariad. Fy nheulu i ydyn nhw," esboniodd.

Disgrifiad o’r llun,

Miari Workman gyda dwy o'i chathod

Mae hi eisiau'r gorau i'r cathod, ond ers i gostau byw gynyddu, mae'n mynd yn fwyfwy anodd i dalu'r biliau.

Mae cost gofalu am anifeiliaid anwes - gan gynnwys cost eu bwydo - wedi codi 12.6% yn y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigyrau chwyddiant (CPI) diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Ar ben hynny mae biliau ynni uwch a chynnydd o 18.2% yng nghostau bwyd.

"Rwy'n cael bwyd i fy merch, ac rwy'n gwneud yn siŵr fy mod yn cael bwyd i'r cathod," meddai Miari Workman.

"Weithiau, fe fydda' i'n bwydo fy merch ac yn mynd heb fwyd gan wneud yn siŵr bod gen i fwyd i'r cathod," meddai Miari.

"Fe ges i'r anifeiliaid yma oherwydd mi oeddwn i eisiau nhw. Nid eu bai nhw yw mod i methu fforddio pethau. Felly pam ddylen nhw ddioddef?"

'Rhyddhad'

Cyn y Nadolig, gyda straen ariannol arferol cyfnod y Nadolig, daeth i'r amlwg iddi ei bod hi angen ychydig o help.

"Roedd arian yn brin ac roedd yn rhaid i mi gael anrhegion i bawb a bwyd. Roeddwn i'n poeni y byddai fy nghathod angen bwyd dros y Nadolig hefyd," meddai.

Dywedodd ffrind wrthi am Blue Cross, elusen lles anifeiliaid sy'n rhedeg banc bwyd yng Nghasnewydd.

Fe gafodd hi "lwyth o fwyd" i'r cathod - cefnogaeth hanfodol y mae hi wedi parhau i'w dderbyn ers hynny.

"Roedden nhw mor garedig a ddim yn feirniadol o gwbl. Roeddwn i'n teimlo cymaint o ryddhad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Miari'n meddwl y byd o'i chathod

Yn ôl Miari, sy'n ddi-waith ar hyn o bryd, mae'n bwysig bod pobl yn sylweddoli bod modd gofyn am gymorth a bod "dim cywilydd gofyn am help".

"Dydyn nhw ddim yn barnu, dydyn nhw ddim yn beirniadu. Maen nhw'n braf iawn siarad â nhw, maen nhw'n gyfeillgar iawn, yn gwrtais iawn ac yn hapus i helpu.

"Peidiwch â gadael i'ch anifail lwgu neu peidiwch â'u rhoi i ffwrdd. Ewch i'r Blue Cross. Rwy'n falch fy mod wedi gwneud. Ac fy nghathod i hefyd."

'Cyrraedd y dibyn'

Yng nghanolfan yr elusen yng Nghasnewydd, mae silffoedd llawn bwyd anifeiliaid anwes.

"Mae gennym ni fwyd ci, bwyd cath, bwyd [anifeiliaid] bach, bwyd sych a gwlyb," esboniodd Georgie Riley, rheolwraig y ganolfan.

Dywedodd ei bod wedi sylwi bod mwy o bobl yn dod i ddefnyddio'r banc bwyd, ar ar gynnydd pryderus yn nifer yr anifeiliaid anwes sydd angen eu hailgartrefu.

Mae rhwng 40 a 50 o anifeiliaid anwes ar hyn o bryd yn aros i gael lle yn y ganolfan neu am rywun i'w maethu. Ym mis Ionawr, roedden nhw'n delio â bron i 90.

Mae llawer o'r teuluoedd sy'n ceisio ailgartrefu eu hanifeiliaid anwes yn gwneud hynny am resymau ariannol, medd yr elusen.

Tra bod yr anifeiliaid yn aros i'r elusen eu cymryd neu am gartref arall, mae Blue Cross yn defnyddio'r adnoddau eu banc bwyd i sicrhau nad yw'r anifeiliaid anwes yn llwgu.

"Yn aml, mae'r bobl yn gweithio ond yn cael amser caled yn ddiweddar ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd fforddio bwyd anifeiliaid anwes," meddai Georgie Riley.

"Ein pryder ni yw bod pobl methu bwydo eu hunain, neu'n mynd heb bethau eraill, oherwydd eu bod yn ceisio bwydo eu hanifeiliaid anwes.

"Yn aml bydd pobl yn dod aton ni am help gydag ailgartrefu oherwydd eu bod nhw wedi cyrraedd y dibyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Loca wedi cael ei fabwysiadu gan un o weithwyr canolfan Blue Cross

Mae'r elusen yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am y gwasanaeth banc bwyd y maen nhw'n ei gynnig, fel nad yw perchnogion sy'n cael trafferthion ariannol yn cefnu ar eu hanifail anwes yn ddiangen.

Maen nhw hefyd yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i faethu anifeiliaid anwes.

"Byddai hynny'n ein helpu ni i roi cymorth i gymaint mwy o anifeiliaid anwes, pe bai gennym ni fwy o ofalwyr maeth.

"Byddai'n cynyddu'n aruthrol faint o bobl y gallwn ni eu helpu."

Mae'r rhai sy'n maethu yn cael y bwyd a'r offer angenrheidiol i ofalu am anifeiliaid anwes maeth am ddim, tra bod yr elusen yn gofalu am unrhyw filiau milfeddygol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gemma Gregg wedi maethu degau o anifeiliaid ers dechrau gweithio i'r elusen

Gyda'i chi mabwysiedig, Loca wrth ei thraed, mae Gemma Gregg yn esbonio sut y dechreuodd hi faethu pan ddechreuodd weithio gyda'r elusen am y tro cyntaf.

Fel cynorthwy-ydd lles anifeiliaid gyda Blue Cross, mae'n helpu gyda'r broses o ddod o hyd i gartrefi newydd a chartrefi maeth i bob math o anifeiliaid.

Ers mis Ionawr, mae Gemma a'r tîm wedi helpu i ailgartrefu 120 o anifeiliaid anwes, gyda 25 arall yn y broses o gael eu hailgartrefu.

Mae hi wedi maethu dros 80 o wahanol anifeiliaid anwes ei hun, gan gynnwys cŵn, cathod, moch cwta a chwningod.

"Does 'na ddim un anifail anwes eisiau bod mewn senario kennel," meddai. "Felly, os gallwn eu cadw mewn cartref lle mae pethau ychydig yn fwy cyson, yna mae'n llawer gwell iddyn nhw.

"Mae'n werth chweil. Mae mor hyfryd eu gweld yn cael y gofal sydd ei angen arnynt pan nad ydynt efallai wedi cael hynny o'r blaen."

Pynciau cysylltiedig