Betsi: Ffrae am sylwadau 'camarweiniol' yn parhau

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru'n cyhuddo'r Llywodraeth o gamarwain wrth esbonio'r rhesymau dros dynnu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig

Mae Llywodraeth Cymru wedi "camarwain y Senedd a phobl Cymru" wrth esbonio'u rhesymau dros dynnu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 yn ôl Plaid Cymru.

Dros yr wythnos ddiwethaf, mae ffrae wedi corddi rhwng Plaid Cymru a'r llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd dros sylwadau gan y cyn-Weinidog Iechyd a'r Prif Weinidog Mark Drakeford wrth esbonio'r penderfyniad.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Vaughan Gething, "mae prif weithredwr NHS Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru wedi rhoi cyngor clir bod angen symud Betsi Cadwaladr o fesurau arbennig".

Ond ddydd Mawrth diwethaf, rhyddhaodd Plaid Cymru lythyr gan yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, a oedd yn dweud: "Mewn ymateb i'ch cwestiwn penodol p'run ai oedd yna gyngor gen i neu fy staff i dynnu bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr o fesurau arbennig, gallaf fod yn glir iawn. Doedd dim cyngor o'r fath."

'Camarwain pobl Cymru'

Wedi i'r bwrdd gael ei roi yn ôl dan fesurau arbennig ar ddiwedd Chwefror eleni, dywedodd y Prif Weinidog yn y Siambr: "Cymerwyd y penderfyniad, a phenderfyniad gan weinidogion yw e, i gymryd y bwrdd allan o fesurau arbennig oherwydd i ni gael cyngor mai dyna ddylid ei wneud gan yr Archwilydd Cyffredinol, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am roi cyngor i weinidogion.

Galwodd Plaid Cymru ar Lafur i gywiro cofnod y Senedd, ond gwrthododd y Prif Weinidog y cais hwnnw, gan ddweud ei bod hi'n "glir ei fod e ddim wedi camarwain y Senedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adrian Crompton y byddai wedi hoffi i'r "datganiad adlewyrchu'n gliriach" bod cyngor wedi'i rhoi i weinidogion gan swyddogion Llywodraeth Cymru

Mewn llythyr newydd sydd wedi dod i law Plaid Cymru ac a rannwyd â Newyddion S4C, fe ysgrifennodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton at Brif Weithredwr GIG Cymru ddeuddydd wedi i Vaughan Gething areithio yn y Senedd yn Nhachwedd 2020.

Yn y llythyr fe nododd ei fod yn anghysurus efo sylwadau'r Gweinidog Iechyd gan ddweud: "Bydden i wedi gofyn i'r datganiad adlewyrchu'n gliriach bod unrhyw gyngor i'r gweinidog ar statws cynyddol yn cael ei roi gan swyddogion Llywodraeth Cymru... rwy'n ymwybodol wrth ymateb i gwestiynau bod y gweinidog wedi cyfeirio sawl gwaith at y cyngor gafodd gan y grŵp teir-ran, ac mae'n rhaid dweud bod hynny wedi gwneud i mi deimlo'n eithaf anghyfforddus am y rhesymau rwyf newydd eu nodi..."

Mae Plaid Cymru hefyd wedi derbyn llythyr gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sydd yn cadarnhau na roddodd y corff hwnnw gyngor uniongyrchol i dynnu'r bwrdd iechyd o fesurau arbennig.

Disgrifiad o’r llun,

Rhun ap Iorwerth: "Ry'n ni am weld Llywodraeth Cymru yn rhoi eu llaw i fyny a chyfaddef eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad"

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth A.S: "Ry'n ni am weld y llywodraeth yn rhoi eu llaw i fyny a chyfaddef eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad - eu bod nhw wedi dweud rhywbeth nad oedd yn gywir wrth y Senedd. Eu bod nhw wedi gwneud hynny ar fwy nag un achlysur, wedi camarwain y Senedd, camarwain pobl Cymru.

"Dwi ddim yn cyhuddo'r llywodraeth o gamarwain y Senedd. Maen nhw wedi camarwain y Senedd. Gwrandewch ar y clipiau, darllenwch y cofnod, darllenwch yr hyn mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi ei ddweud.

"Mae hwn yn fater difrifol. Fyddwn ni'n mynd â hyn ymhellach, ond rydyn ni'n galw eto ar y llywodraeth i gywiro'r cofnod."

'Does dim cofnod i'w gywiro'

Ar lawr y Senedd heddiw, fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru alw ar y Prif Weinidog i ryddhau cofnodion y cyfarfod rhwng y gwahanol gyrff ac am gywiro'r cofnod, ond doedd Mark Drakeford ddim am ildio.

Dywedodd wrth ei gyd-aelodau: "Mae tair rhan i'r system sydd yn cael eu dilyn. Mae'n dechrau gyda chyfarfod teir-ran, lle mae swyddfa'r Archwilydd Cyffredinol, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru yn cwrdd.

"Maen nhw'n trafod oes angen ymyrryd ar gorff neu oes angen tynnu ymyrraeth yn ôl. Mewn ail ran, mae cyngor i weinidogion yn dod gan weision sifil. Y trydedd rhan yw penderfyniad y gweinidog."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Dydw i ddim yn credu y gallai fod yn gliriach," dywedodd Mark Drakeford

"Dyna sut mae'r broses yn gweithio, dyna oeddwn i'n ceisio'i esbonio pan atebais i'r cwestiwn yma ddiwethaf.

"Does dim cofnod i'w gywiro... mae'r cyngor sydd yn cyrraedd gweinidogion yn dod wrth weision sifil.

"Dyna'r cyngor mae gweinidogion yn ei weld. Yn y pendraw, gweinidogion sydd yn gwneud penderfyniadau. Dyna ddigwyddodd yn 2020, dyna sydd yn digwydd bob tro mae cyfarfod teir-ran. Dydw i ddim yn credu gallai fod yn gliriach."