Gwion Prys, rasiwr motobeics: O Lanllyfni i'r anialwch
- Cyhoeddwyd
Mae Gwion Prys o Lanllyfni wrth ei fodd â beiciau modur; yn reidio ers cael ei un cyntaf yn arddegau, mae ganddo bellach ei siop ei hun yn eu gwerthu.
Ond mae hefyd yn teithio'r byd yn cymryd rhan mewn rasys beicio modur ar hyd tirweddau anodd a pheryglus. Ym mis Ionawr, cwblhaodd ras 6,500km o Moroco i Senegal dros 13 diwrnod, ac ym mis Gorffennaf, mae'n cystadlu yn ras heriol Red Bull Romaniacs yn Rwmania.
Ers pryd wyt ti'n rasio beiciau modur, ac i ba fath o lefydd wyt ti wedi mynd i gystadlu?
Ges i'r motobeic cynta pan o'n i'n 13, a dyna fo, love at first sight! 'Nes i jyst cario 'mlaen, a ges i rai gwell a chyflymach.
'Nes i ddechrau cystadlu a gwneud rasys dramor ar ôl i mi adael yr ysgol. Es i i Affrica pan o'n i tua 21 oed; rhoi'r beic yng nghefn y fan a dreifio i lawr 'na ben fy hun!
Dwi 'di gwneud yr Andalucía Rally oedd yng nghanol cyfnod COVID, ond o'ddan ni'n cael ein cyfri fel elite athletes felly ges i fynd i fan'na. Rallye du Moroc wedyn, lle ddes i'n bedwerydd.
O'dd yr un dwytha 'ma - Real Way to Dakar - yn dechrau yn nhop Moroco a mynd i lawr drwy Mauritania a gorffen yn Dakar yn Sengal. Un diwrnod o'dd angen reidio 450 milltir, a hynny drwy'r anialwch. O'dd o reit anodd. Mewn rhai ralis ti'n cael rest day hanner ffordd drwodd er mwyn i dy gorff di ddod nôl at ei hun, ond doedd 'na ddim yn hon. Ond o'dd o'n dda.
Mae'r rasys 'ma yna, a wnawn nhw annoyio fi os nad ydw i'n eu gwneud nhw!
Mae rhai rasys yn ddyddiau o hyd... lle wyt ti'n cysgu?
Yn y Real Way to Dakar, oedd gen i dîm o Brydain oedd yn watshiad ar ôl fi. Am fod y rali'n symud bob diwrnod, mae 'na loris yn teithio ymlaen efo pethau fel bwyd, teiars a'r babell.
Maen nhw'n symud i'r gwahanol wersylloedd tra 'da ni'n gwneud y cymal bob diwrnod, felly erbyn i ni gyrraedd gyda'r nos, mae popeth yn barod. O'n i ar y beic am 4.30-5am a ddim yn ôl tan tua 7-8pm, felly oedd angen sortio'r beic, bwyta digon a chysgu!
A beth am gario petrol neu fwyd bob dydd?
O'dd 'na danciau petrol mawr ar y beic oedd yn dal tua 30 litr, ac roedd y trefnwyr yn rhoi fuel stops tua hanner ffordd bob diwrnod er mwyn i ti gael llenwi.
O'n i'n byta hynny o'n i'n gallu i frecwast, ac o'n i'n mynd â chydig o energy bars yn fy mhoced. O'dd hi'n rhewi yng ngogledd Moroco yn y boreau - o'dd hi'n -1º tan tua 9am, ond tua canol y ras, o'dd hi'n gynnes o hyd, tua 30º, felly oeddan ni'n gorfod cario tair litr o ddŵr ar ein cefn mewn camel-back.
Sut wyt ti'n ffeindio dy ffordd mewn anialwch, a beth sydd yn digwydd os oes yna argyfwng?
Mewn rhai ralis, ti'n cael sgrôl o bapur efo cyfarwyddiadau bras a chyfeiriad cwmpawd lle i fynd, achos does 'na ddim byd yn yr anialwch i'w ddilyn.
Yn y ras dwytha', o'dd gen i GPS ar ffrynt y beic, ac o'n i'n gorfod cyrraedd pwyntiau penodol ar y cwrs. Os o'ddat ti'n eu methu nhw o'ddat ti'n cael cosb. Er mwyn cael canlyniad da, ti angen gwneud yn siŵr bod ti'n mynd y ffordd iawn, peidio methu checkpoint, a chyrraedd y diwedd reit handi.
Os 'di'r beic yn torri i lawr, ti'n gallu pwyso botwm gwyrdd a maen nhw'n gwybod bo' ti 'di stopio, a ddown nhw. Mae 'na rywun o fewn cyrraedd, ond does 'na'm byd o gwbl yn nunlla o dy gwmpas di, felly ti bob tro yn teimlo bo' ti ar dy ben dy hun...
Beth oedd dy brofiad anoddaf di mewn ras?
Y ras nes i ei fwynhau orau oedd yr un dwytha, ond ges i adeg anodd iawn ynddi hefyd.
Ar y chweched neu seithfed diwrnod, 'nath y pwmp petrol fynd ar y beic. Mae 'na betrol sâl yn y gwledydd 'ma, ac o'dd y filter wedi clogio. Doedd 'na ddim pŵer yn y beic o gwbl, a ti angen lot o bŵer i reidio dros dywod. 'Nes i ei gneud hi'n ôl - jyst - ac o'dd gen i bwmp sbâr efo fi, so nes i newid hwnna gyda'r nos ac o'n i'n iawn.
Ond y diwrnod wedyn, 'nath yr union un peth ddigwydd i'n ffrind i, a 'nath ei feic o stopio go iawn, felly o'dd rhaid i mi ei towio fo am tua 150 milltir. Mae Mick yn tynnu at ei 60 rŵan, ac mae o wedi cael canser, a hyn ydi ei fywyd o. O'dd o isho gwneud jyst un ras arall, felly o'dd o'n beth mawr iddo fo allu gorffen hon.
Lwcus mod i efo fo y diwrnod 'nath o dorri i lawr, a bod gen i tow rope! O'dd ganddo fo bwmp sbâr hefyd, so o'ddan ni dal yn y gêm. 'Nathon ni golli lot o amser, ond do'n i ddim yna i ennill, o'n i jyst isho gorffen.
O'dd honna reit emosiynol 'de.
Pa ras wyt ti eisiau ei chwblhau?
Yr un dwi isio'i gwneud ers blynyddoedd ydi'r un yn Rwmania. Does 'na ddim llawer o bobl yn ei gorffen hi. Dydi hi ddim yn hir o ran pellter, ella tua 60-70km y dydd, ond ei bod hi'n cymryd drwy'r dydd i ti ei gwneud.
Prin y medri di gerdded mewn rhai mannau; llwybrau serth a llefydd 'sa ti ddim yn meddwl am reidio motobeic yna... a dyna sy'n fy nenu fi yno!
'Nes i un reit debyg yn Awstria fis Mehefin dwytha'. Mae 'na dros 1,500 yn ei chychwyn hi, a dwi'n meddwl mai dim ond saith orffennodd hi... do'n i ddim yn un o'r saith yna! O'n i jyst 'di mynd yna i weld beth oedd o ac o'dd o'n briliant - o'dd 'na tua 30,000 o bobl yn gwylio felly o'dd yr atmosffer yn wych.
Beth wyt ti'n ei fwynhau am rasio beiciau modur?
Dwi'n licio'r elfen extreme ohono fo, gwthio'r beic a ti dy hun i'r eitha'.
Dwi 'di bod yn rasio ers blynyddoedd, a byth yr un cyflyma' yna, ond dwi bob tro yn cael sgôr gweddol, ac os ydi pethau'n anodd, dwi'n i'n gallu dig deep a dod drwyddo fo.
Pan ti ei wneud o, ti'n cwestiynu pam bod ti... pan mae dy gorff di jest â thorri a dy feic di'n racs... Ond erbyn rŵan, rhyw ddeufis ar ôl y ras ddwytha, dwi'n edrych i weld pryd mae'r un nesa'! Mae 'na jyst rhywbeth amdano fo.
A ma'n well na golchi llestri 'de!
Gwion oedd un o'r cystadleuwyr ar y gyfres ddiweddara' o'r sioe gwis Chwalu Pen ar BBC Radio Cymru.
Hefyd o ddiddordeb: