Ffos-y-Fran: Gwrthod cais i ymestyn cyfnod o gloddio glo

  • Cyhoeddwyd
Ffos-y-FranFfynhonnell y llun, Matt Cardy/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y drwydded i gloddio ar y safle i fod i ddod i ben ym mis Medi 2022

Mae cynlluniau i ymestyn cyfnod y cloddio ar safle glo-brig (open cast mining) mwyaf y DU wedi'u gwrthod.

Bydd yn golygu fod yn rhaid i'r gwaith o dyllu am lo ddod i ben yn syth yn Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful - safle sydd â hanes hir a dadleuol.

Roedd y lofa wedi dadlau bod galw am ei glo gan y diwydiant dur.

Ond mynnu nad oedd y cais yn cyfateb â pholisïau Llywodraeth Cymru ar atal newid hinsawdd oedd swyddogion cynllunio'r cyngor lleol.

Ddydd Mercher, fe bleidleisiodd aelodau cyngor sir Merthyr Tudful yn unfrydol i wrthod y cais.

Gofyn am estyniad

Llwyddodd Cynllun Adfer Tir Ffos-y-Fran - sef teitl swyddogol y gwaith - i ennill caniatâd cynllunio yn 2005.

Dechreuodd y cloddio am 11 miliwn tunnell o lo ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar safle sydd yr un faint â 400 cae pêl-droed.

Y bwriad arall oedd adfer y tir - oedd wedi'i lygru ag olion hen ddiwydiannau - yn ôl i weundir gwyrdd, agored er budd y gymuned wrth i'r gwaith barhau.

Ond roedd 'na wrthwynebiad chwyrn yn lleol oherwydd pa mor agos oedd y datblygiad i gartrefi a busnesau.

Roedd y tai agosaf lai na 40m (132 troedfedd) i ffwrdd, a thrigolion lleol wedi brwydro ymgyrch hir gan honni i'w bywydau gael eu tarfu gan lwch a sŵn.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Safle glo-brig Ffos-y-Fran o'r awyr

Yn 2017 fe ddenodd eu protestiadau gefnogaeth prif arbenigwr cyfreithiol y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol cymunedau sydd wedi'u bygwth gan lygredd.

Mae'r lofa wastad wedi gwrthod yr honiadau, gan ddadlau eu bod yn cael eu rheoleiddio'n llym, a bod y safle'n darparu swyddi sy'n talu'n dda mewn ardal sydd dirfawr eu hangen nhw.

Ar ôl 15 mlynedd, fe ddaeth y caniatâd cynllunio i ben ym mis Medi 2022 - ond fe geisiodd y cwmni am estyniad.

Roedd Merthyr (South Wales) Ltd eisiau gallu parhau i dyllu am lo tan ddiwedd Mawrth 2024, ac ymestyn y dyddiad ar gyfer gorffen y gwaith o adfer y tir tan 30 Mehefin 2026.

Mae polisi glo Llywodraeth Cymru yn atal datblygiad glofeydd newydd ac estyniadau hefyd, oni bai bod 'na "amodau cwbl eithriadol".

Diwedd oes y glo?

Dadl y cwmni oedd eu bod nhw'n gymwys, gan honni bod ganddyn nhw "rôl o bwysigrwydd cenedlaethol" wrth ddarparu gweithfeydd dur Port Talbot â ffynhonnell leol o lo.

Ond fe gyfaddefon nhw hefyd nad oedd digon o gyllid wedi'i roi i'r naill ochr ar gyfer adfer y tir yn llwyr fel y cytunwyd 'nôl yn 2005, a bod angen amser i ddiwygio'r cynlluniau.

Gwrthod y dadleuon yma wnaeth swyddogion cynllunio Cyngor Sir Merthyr Tudful yn eu hadroddiad ar gyfer cyfarfod y pwyllgor cynllunio ddydd Mercher, gan annog cynghorwyr i beidio â chymeradwyo'r cais.

Daeth pennaeth cynllunio'r cyngor, Judith Jones i'r casgliad nad oedd "unrhyw fuddiannau lleol na chymunedol yn cael eu darparu a fyddai'n gwneud yn iawn am yr anfanteision a'r difrod parhaus i'r amgylchedd fyddai'n cael ei achosi gan y datblygiad".

Disgrifiad o’r llun,

Mae cryn brotestio wedi bod yn erbyn y gwaith cloddio yn y gorffennol

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi dweud eu bod nhw'n ystyried dwyn achos llys yn erbyn y cyngor a Llywodraeth Cymru, i fynnu camau gweithredu yn ymwneud â chloddio'n parhau yn Ffos-y-Fran heb ganiatâd cynllunio wrth i'r cwmni aros am benderfyniad gan y cyngor.

Fe ddywedodd Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, ei bod yn teimlo "rhyddhad mawr" ar ôl i'r cyngor bleidleisio dros wrthod ymestyn y cyfnod o gloddio.

"Dw i'n falch iawn fod y penderfyniad gan y cyngor yn unfrydol a bod ymwybyddiaeth yn y siambr am sut y mae pethau wedi symud ymlaen, o ran bod newid hinsawdd yn realiti.

"Allwn ni ddim caniatáu i fwy o lo ddod o'n cymunedau."

Disgrifiad o’r llun,

Haf Elgar yw cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru a dywedodd ei bod yn teimlo "rhyddhad"

Mae'r penderfyniad ddydd Mercher yn nodi diwedd pennod arall yn hanes hir Cymru gyda phyllau glo.

Datblygwyd safleoedd glo-brig - lle mae'r glo yn cael ei dyllu o'r wyneb, yn hytrach nag o byllau traddodiadol dan ddaear - ar draws y DU yn ystod ac yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Yn ystod y degawdau diwethaf, Ffos-y-Fran oedd y mwyaf - ac ers y pandemig dyma oedd y safle actif ola' un.

Mae 'na gais arall i ymestyn safle glo-brig Glan Lash yn Sir Gaerfyrddin, er nad yw'r lofa honno wedi bod yn gweithredu ers 2019.

Y cwestiwn nawr yw beth fydd goblygiadau'r penderfyniad i'r cwmni sy'n gyfrifol am Ffos-y-Fran a'u cynlluniau ar gyfer y gwaith adfer - bydd hyn yn destun craffu cynyddol o hyn allan.

Yn y gorffennol mae llefarydd ar eu rhan wedi dweud eu bod yn gweithio ar gynlluniau diwygiedig ar gyfer y tir, gan ddisgrifio'r peth fel "prosiect sylweddol" fyddai'n cynnwys troi rhan o'r safle yn "gyrchfan twristiaeth a hamdden".