Parthau gwarchod ffliw adar o gwmpas fferm fawr ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae parth gwarchod ffliw adar wedi ei osod o amgylch fferm sy'n bridio adar hela yng ngogledd Powys.
Mae Fferm Bettws Hall ger Betws Cedewain, Y Drenewydd, yn dweud bod mwy na 1.7m o wyau ffesantod a chywion petris yn cael eu dodwy ar y fferm bob blwyddyn.
Fe gafodd parth gwarchod 3km ei gyhoeddi yn yr ardal ar 13 Ebrill gyda pharth gwyliadwraeth yn cael ei osod dros ardal 10km ar yr un pryd.
Mae BBC Cymru wedi gwneud cais am ymateb gan Bettws Hall.
Fe gafodd dau barth arall, sy'n gorchuddio tua'r un ardal, eu cyhoeddi ar 23 a 27 Ebrill.
Prif swyddog milfeddygol Llywodraeth Cymru, Dr Richard Irvine, wnaeth gyhoeddi'r parth gwarchod, sy'n gosod rheolau bioddiogelwch llym.
Mae'n rhaid cadw cofnodion manwl a does dim hawl rhyddhau adar hela. Mae'n rhaid diheintio unrhyw gerbydau sy'n dod i mewn neu'n gadael safle.
Mae'r cwmni teuluol yn fferm Bettws Hall wedi tyfu dros dri degawd ac mae hefyd yn rheoli chwe stad saethu, gan gynnwys Plas Dinam.
Mae'r teulu Evans wedi dweud eu bod yn gweithio gyda mwy na 50 o safleoedd ar ffiniau Powys a Sir Amwythig.
Cafodd rheolau sy'n atal dofednod ac adar caeth rhag cael eu rhyddhau y tu allan eu codi yng Nghymru a Lloegr ar 18 Ebrill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2023