Cadarnhau achos o ffliw adar ger Y Drenewydd

  • Cyhoeddwyd
IeirFfynhonnell y llun, PA Media

Mae achos o ffliw adar wedi ei ganfod ar safle ym Mhowys.

Yn ôl Cyngor Powys fe gafodd achos o'r straen H5N1 ei ganfod ger Y Drenewydd.

O ganlyniad mae parth gwarchod o 3km mewn grym o amgylch y safle heintiedig er mwyn cyfyngu'r risg o ledu'r haint.

Mae'n golygu bod yna gyfyngiadau ar symud a chasglu adar o fewn y parth, ac mae'n rhaid datgan unrhyw safle sy'n cadw adar.

"Mae'n hanfodol fod unrhyw un sy'n cadw adar yn aros yn wyliadwrus, ac yn sicrhau eu bod yn arfer y lefelau uchaf o ran bioddiogelwch," meddai'r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys fwy Diogel.

"Mae'n bwysig hefyd nad yw pobl yn cyffwrdd ag neu'n casglu unrhyw adar sâl neu adar sydd wedi marw er mwyn osgoi lledu'r feirws.

"Y cyngor o safbwynt iechyd cyhoeddus yw taw risg isel iawn sydd i iechyd bodau dynol a chyngor cyrff safonau bwyd yw bod ffliw adar yn peri risg isel iawn o safbwynt bwyd ar gyfer defnyddwyr y DU."

Cadw golwg am arwyddion H5N1

Mae gofyn i unrhyw un sy'n cadw adar fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r haint, fel cynnydd yn nifer yr adar sy'n marw, trafferthion anadlu, gostyngiad yn y dŵr sy'n cael ei yfed, a nifer yr wyau sy'n cael eu dodwy.

Pe bai amheuaeth bod yna achos o ffliw adar, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i berchnogion a milfeddygon hysbysu'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Mae'r awdurdodau hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd dilyn "mesurau bioddiogelwch llym er mwyn atal i unrhyw ddeunyddiau, offer, cerbydau, dillad, bwyd neu ddeunydd gwely a all fod yn heintus oherwydd cysylltiad gydag adar gwyllt, ddod i'ch safle".

Mae gofyn hefyd i unrhyw un sy'n dod ar draws adar dŵr sydd wedi marw - fel elyrch, gwyddau a hwyaid - neu adar gwyllt eraill fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, ffonio llinell gymorth Defra, sef 03459 33 55 77.

Pynciau cysylltiedig