Mudiadau'n cwrdd i wrthwynebu ynni niwclear yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Caernarfon

Yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn fe ddaeth nifer o fudiadau gwrth niwclear ynghyd i wrthwynebu unrhyw gynlluniau i adeiladu pwerdai newydd ar Ynys Môn ac yn Nhrawsfynydd.

Roedd y mudiadau a oedd yn bresennol - PAWB, CADNO, Cymdeithas yr Iaith, Welsh Anti Nuclear Alliance a'r Nuclear Free Local Authorities - yn honni nad ynni niwclear ydy'r ffordd ymlaen i ddiwallu anghenion pŵer Cymru.

Roedden nhw hefyd yn pryderu am yr effaith y byddai prosiectau niwclear mewn ardaloedd Cymraeg yn ei gael ar yr iaith.

Disgrifiad,

Jill Evans: 'Dyw niwclear ddim yn ateb anghenion Cymru'

Dywedodd Jill Evans, cyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd: "Mae ynni niwclear yn beryglus, mae'n llawer rhy ddrud a dyw e ddim yn ateb y problemau sy'n wynebu ni o ran ynni, o ran newid hinsawdd ac mae'r gwastraff yn beryglus am ganrifoedd.

"'Dan ni'n gallu defnyddio yr holl adnoddau eraill sydd gyda ni yng Nghymru i gynhyrchu ynni cynaliadwy. Dyw niwclear ddim yn ateb ein hanghenion ni."

Dywed cefnogwyr ynni niwclear bod ganddo le amlwg a blaenllaw i chwarae yn yr ymdrech i gael ynni carbon isel, ac na fyddai datblygiadau yn cael caniatâd oni bai eu bod yn ddiogel.

Disgrifiad o’r llun,

Robat Idris: 'Angen cefnogi ynni gwyrdd'

Ar ddiwedd y cyfarfod dywedodd Robat Idris: "'Dan ni'n gyforiog o adnoddau lleol... Bydd pobl Cymru yn colli allan os nad yw gwleidyddion Cymru yn go iawn gefnogi ynni gwyrdd a swyddi gwyrdd i bobl leol ac ar ben hynny berchnogaeth leol o'r adnoddau hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae datblygwyr wedi dweud y gallai'r gwaith o adeiladu adweithydd niwclear newydd yn Nhrawsfynydd gychwyn "mor gynnar â 2027"

Ychwanegodd y mudiadau y byddai prosiectau niwclear yng Ngwynedd a Môn - "lle mae'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith gyntaf yn fwyaf amlwg" - yn arwain at fewnlifiad o weithwyr dros dro - "y rhan fwyaf ohonynt ddim yn defnyddio'r Gymraeg fel iaith gyntaf".

"Bydd hynny'n arwain at wanhau yn y defnydd cyntaf o'r Gymraeg ar gyfer sgyrsiau a thrafodion dyddiol, ac yn anochel yn cael effaith andwyol ar dreftadaeth ieithyddol ein rhanbarth."

Mae'r mudiad yn dweud mai'r ffordd i gwrdd ag amcanion ynni ac atal newid yn yr hinsawdd ydy trwy "leihau defnydd ynni... gwella effeithlonrwydd ynni ac inswleiddio... newid ein ffordd o fyw... a chynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy trwy ddefnyddio'r holl dechnolegau sydd ar gael a'r rhai sy'n dod i'r amlwg".

'Dim byd peryglus'

Ond mae cefnogwyr ynni niwclear yn dweud bod ganddo le amlwg a blaenllaw i chwarae yn yr ymdrech i gael ynni carbon isel, ac na fyddai datblygiadau yn cael caniatâd oni bai eu bod yn ddiogel.

Maen nhw hefyd yn dadlau fod ynni niwclear yn bwysig iawn o safbwynt yr economi leol.

John Idris Jones ydy cadeirydd Cwmni Egino, sy'n gweithio i ddatblygu cynlluniau i gael pwerdy niwclear bychan (SMR) yn Nhrawsfynydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Idris Jones yn dweud na fyddai unrhyw brosiect peryglus yn cael ei gymeradwyo

"Fe alla i ddeall pam bod pobl yn bryderus am ynni niwclear," meddai.

"Mae pob math o straeon ar y cyfryngau cymdeithasol ac ati sy'n gallu creu ofn a phryder, ac mae 'na ddigwyddiadau wedi bod yn y gorffennol - cysylltiad efo'r bom atomig ac ati.

"Ond rhaid i ni gofio bod 'na ddim byd yn cael ei adeiladu yng ngwledydd Prydain 'sa'n cael ei ystyried yn beryglus gan y rheoleiddwyr.

"Tydi hynny ddim yn mynd i ddigwydd. Mae rheoleiddio llym iawn ar ddatblygiadau niwclear, yn yr un ffordd mae 'na reoleiddio llym ar bethau yn ymwneud ag olew a phetrol ac ati.

"Felly mae'r honiad bod adeiladu atomfa yn mynd i fod yn adeilad peryglus, i mi tydi hynny ddim yn dal dŵr. Fyddai buddsoddwyr ddim yn fodlon buddsoddi mewn rhywbeth sydd yn beryglus."