Abertridwr: Dyn, 28, yn cyfaddef dynladdiad Benjamin Lloyd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cyfaddef iddo ladd dyn arall yn Sir Gaerffili.
Cafodd Benjamin Lloyd, 27, ei ganfod yn farw mewn tŷ yn Abertridwr ar 2 Ebrill.
Yn dilyn ei farwolaeth, apeliodd Heddlu Gwent am dystion i ffrwgwd y noson gynt rhwng dau ddyn yng nghanol tref Caerffili.
Ddydd Mercher, yn Llys y Goron Caerdydd, plediodd Jay Webster, o Senghennydd, yn euog i ddynladdiad Mr Lloyd.
Cafodd y dyn 28 oed ei gadw yn y ddalfa ac ni wnaeth ei fargyfreithiwr unrhyw gais am fechnïaeth.
Yn ystod y gwrandawiad byr, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke wrth Webster fod dedfryd o garchar yn anochel.
'Dyn caredig a hael'
Yn dilyn ei farwolaeth, fe gyhoeddodd teulu Mr Lloyd deyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel "gŵr bonheddig".
"Roedd Ben mor hapus a phositif o hyd, wastad yn llon ei galon," meddai.
"Roedd yn ddyn caredig a hael oedd yn gweithio'n galed, ac roedd ganddo ddigonedd o amser i'w ffrindiau.
"Byddech chi'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i unrhyw un oedd â gair drwg i ddweud amdano."
Bydd Webster yn cael ei ddedfrydu ar 6 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023