Croes Cymru i arwain gorymdaith Coroni'r Brenin Charles

  • Cyhoeddwyd
Dyluniad cefn a blaen y groesFfynhonnell y llun, Julia Skupny
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyluniadau'r groes yn dangos y blaen a geiriau Dewi Sant ar y cefn

Croes Cymru fydd yn arwain gorymdaith Coroni'r Brenin Charles yn Abaty Westminster fis nesaf.

Cafodd y groes newydd ei rhoi fel rhodd gan y Brenin i ddathlu canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru.

Mae geiriau o bregeth olaf Dewi Sant wedi cerfio arni: "Byddwch lawen. Cadwch y ffydd. Gwnewch y Pethau Bychain."

Fe fydd y groes yn cael ei bendithio gan Archesgob Cymru, Andrew John, yn Llandudno ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Julia Skupny
Disgrifiad o’r llun,

Y Brenin Charles, pan oedd yn Dywysog Cymru, wnaeth gomisiynu'r groes fel rhodd i'r Eglwys yng Nghymru ar eu canmlwyddiant

Comisiwn gan y Brenin, pan oed yn Dywysog Cymru, oedd y groes er mwyn nodi'r canmlwyddiant.

Mae wedi ei dylunio a'i llunio gan Michael Lloyd allan o fwliwn arian wedi ei ailgylchu gan y Bathdy Brenhinol yn Llantristant, a phren a syrthiodd yng Nghymru.

Bydd y groes yn cael ei derbyn yn swyddogol gan yr Eglwys yng Nghymru mewn gwasanaeth i ddilyn y Coroni.

Bydd wedyn yn cael ei rannu rhwng yr Eglwysi Anglicanaidd a Chatholig yng Nghymru.

'Anrhydedd'

Fe ddywedodd yr Archesgob Andrew eu bod yn "falch iawn" mai yng ngwasanaeth y Coroni fydd y groes yn cael ei defnyddio gyntaf.

"Mae'n anrhydedd i ni bod Ei Fawrhydi wedi dewis nodi ein canmlwyddiant gyda chroes sydd yn hardd ac yn symbolaidd," meddai.

"Mae ei dyluniad yn cyfeirio at ein ffydd Gristnogol, ein treftadaeth, ein hadnoddau a'n hymrwymiad i gynaliadwyedd."

Ffynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Archesgob Cymru, Andrew John, yn bendithio'r groes fore Mercher

Ar ran yr Eglwys Gatholig yng Nghymru, fe ddywedodd Archesgob Caerdydd ac Esgob Mynyw, Mark O'Toole eu bod yn "edrych ymlaen at ei hanrhydeddu".

Cwmni'r Eurychod wnaeth reoli'r comisiwn, ac fe eglurodd Dr Frances Parton, eu Dirprwy Guradur, sut y mae'n "dangos perthnasedd sgiliau traddodiadol a chrefftwaith yn y byd modern".

"Wrth ddefnyddio'r grefft hynafol o ysgythru arian, mae Michael Lloyd wedi creu gwrthrych hardd sy'n cyfuno neges bwerus â diben ymarferol," meddai.

Ychwanegodd y bydd yn cael ei "defnyddio'n gyson yn yr Eglwys yng Nghymru".

Dywedodd Tim Knox, Cyfarwyddwr y Casgliad Brenhinol fod y groes wedi ei hysbrydoli gan gelf a dylunio canoloesol Cymru.

"Mae Croes Cymru'n cyfuno cyfeiriadau hanesyddol gyda'r crefftwaith cyfoes gorau un," meddai.

"Mae wedi bod yn brosiect unigryw a diddorol ac rydym wedi bod yn falch iawn o gael ein hymgynghori amdano."

Pynciau cysylltiedig