Ateb y Galw: Mererid Wigley
- Cyhoeddwyd
Y cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr teledu Mererid Wigley sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl cael ei henwebu gan Lois Pugh.
Mae Mererid yn gweithio'n llawrydd i S4C a'r BBC ac yn rhedeg cwmni dillad plant, Silibili. Bydd rhai ohonoch yn ei chofio yn ei dyddiau yn newyddiadura i Ffeil a Newyddion.
Yn wreiddiol o Dalywern ger Machynlleth, mi fuodd hi'n byw yn ardal Caerdydd a Sili am dros 25 mlynedd cyn dychwelyd ddechrau'r flwyddyn i'w hardal enedigol ym Mro Ddyfi.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cofio Mam yn teimlo'n sal rhyw fore Sul wrth y bwrdd brecwast ac yn dweud bod yn rhaid iddi fynd i'r ysbyty. Fe gafodd fy mrawd Rhodri ei eni yn hwyrach y diwrnod hwnnw. Ro'n i tua dwy a hanner.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi newydd symud tŷ i Lanbrynmair ac mae'r ardd yn fendigedig - mae'n lot o waith, ond mae mor brydferth a hudol. Wrth eistedd ar y fainc o dan y goeden magnolia o flaen y tŷ, yn edrych allan dros yr ardal, dwi'n teimlo mor ffodus o gael byw yma.
Mae copa Fron Goch, Darowen hefyd yn le arbennig - mae'n edrych i lawr dros fy nghartref genedigol a phob man sy'n gyfarwydd i mi.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Caredig, meddylgar, gweithgar.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Un nos galan ar wyliau gyda Ben, fy mhartner - roedd Ben yn dawnsio'n ddwl ar y llawr dawnsio, ac roedd bachgen ifanc yn ei wylio a'i gopïo, yn edrych arno fel tae'n Dduw!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Wrth fy modd efo partïon gwisg ffansi (ar ôl sortio allan stres be i wisgo!) felly mae fy mharti i yn 40 yn un sy'n aros yn y cof, gyda band byw gwych; parti diweddar fy mrawd yn 50 a pharti penblwydd rhywun reit enwog yn Llundain oedd yn arfer bod yn y Coleg efo fi - agoriad llygad gweld sut mae'r hanner arall yn byw, fel petai!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae 'na sawl un, llawer na fedrai eu cyhoeddi yma… ond dwi'n cofio un tro i fi fynd am brawf sgrin i gyflwyno rhyw raglen Saesneg ac wrth ddarllen yr autocue, mi ddwedais i 'agenda' yn Gymraeg. Bu'n rhaid i'r rheolwr llawr ddweud wrthai yn dawel bach gan nad o'n i wedi sylwi! Roedd gen i gymaint o gywilydd, dwi'n crinjo hyd heddiw!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'n crio'n aml, am bethau bach a mawr.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Byddwn i wrth fy modd yn cael fy nheidiau a neiniau rownd y bwrdd. Roedd Dada Ystradfawr, tad fy mam, wedi marw cyn i mi gael fy ngeni, a'r lleill pan ro'n i'n ifanc felly byswn i wir yn hoffi cael eu holi nhw, fel oedolyn, am eu bywydau cynnar, am fy rhieni, a chael eu holl hanes.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Peidio gorchuddio pacedi bwyd sy' wedi'u hagor cyn eu rhoi yn ôl yn yn y rhewgell, yn ôl fy mhartner! Methu eistedd yn llonydd, wastad yn chwilio am rywbeth i'w wneud, rhy brysur - eto, yn ôl Ben!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Ffilm 'Sliding Doors' - dwi'n mwynhau meddwl am yr elfen o ffawd ac effaith gwahaniaeth o eiliadau ar gwrs bywyd rhywun.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n drwsgl iawn - dwi 'di torri tipyn o esgyrn. Dwi hefyd yn perthyn i'r gangster, 'Murray the Hump', oedd yn y mob yn Chicago efo Al Capone.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael teulu a ffrindiau at ei gilydd, gwneud yn siŵr bod pawb yn deall faint dwi'n eu caru a'u gwerthfawrogi nhw. Dal Iori, fy mab, yn dynn a rhoi llwyth o cwtshys iddo. Cymryd lot o luniau iddo gael atgofion ohona'i.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun dwi'n ei drysori ydi un o fy nhad yn dal fy mab, Iori, am y tro cyntaf. Mae Iori 'di cael ei enwi ar ôl fy nhaid, Iorwerth, tad fy nhad. Fe fu farw Dad ddwy flynedd yn ôl, yn y cyfnod Covid, felly chafodd o a Iori fawr o gyfle i ddod i nabod ei gilydd yn dda.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Fy hun yn blentyn unwaith eto ar ddydd Sadwrn o haf - teimlo'n rhydd, hapus a saff wrth chwarae efo fy mrodyr, Rheinallt a Rhodri, o gwmpas y fferm. Byddem yn cwrdd â'n ffrindiau, Nia a Gerallt, ar fore Sadwrn, wrth yr afon Sberwyn ac yn treulio'r dydd yn chwilota a physgota, reidio beics, chwarae cuddio, adeiladu dens yn y bêls gwair ac yn cael hwyl ac antur allan yn yr awyr agored drwy'r dydd tan i ni ddod i mewn i wylio'r A-Team ar y teledu tua 5 y pnawn.
Hefyd o ddiddordeb: