'Rhaid ailddyfeisio Stryd Fawr Bangor' i ddiogelu'r dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Hen siop H&M Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae 80% o unedau Canolfan Menai ar Stryd Fawr Bangor yn wag

Mae angen trawsnewid stryd fawr Bangor drwy gael llai o siopau a denu cyfuniad o fusnesau cenedlaethol ac annibynnol er mwyn diogelu dyfodol y ddinas.

Dyna farn y gŵr busnes sydd newydd brynu canolfan siopa mwya'r ddinas - safle sydd ar hyn o bryd 80% yn wag.

Mae un academydd hefyd yn credu y gallai dinas Bangor brofi budd o fuddsoddiad i greu trefi a dinasoedd gwyrddach wrth ddenu siopwyr yn ôl.

Yn ôl Dr Siwan Mitchlemore o Brifysgol Bangor mae angen cyfuniad o randdeiliaid i ddod ynghyd os am greu llwyddiant o'r buddsoddiad diweddaraf.

Mae heriau stryd fawr hiraf Cymru yn rhai cyffredin ledled y wlad, ond gyda siopau mawr fel Debenhams a H&M wedi gadael Bangor yn ddiweddar, bu galw o'r newydd am gymorth.

Roedd y siopau hynny'n rhan o Ganolfan Menai, sydd yng nghanol y ddinas ac yn 130,000 troedfedd sgwâr.

Gyda dros 20 o unedau angen eu llenwi, mae cwmni Rob Lloyd, Bearmont Capital, newydd brynu'r safle ac yn dweud eu bod yn hyderus y gallen nhw fod yn rhan ganolog o'r ateb i achub y ddinas.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rob Lloyd yn cydnabod yr heriau ond yn gweld atebion posib

"Yndi, mae'n her a hanner," dywedodd Mr Lloyd wrth Newyddion S4C, "ond os edrychwch chi ar y ganolfan yma fel catalydd ar gyfer canol dinas Bangor i gynyddu'r nifer o siopwyr sy'n dod yma i'r ganolfan ac i'r stryd fawr yn gyffredinol, dyma yn union beth sydd ei angen".

'Rhaid bod yn greadigol'

Yn ôl Mr Lloyd mae busnesau eisoes yn dangos diddordeb ac mae'n gobeithio bod modd cadarnhau rhai enwau mawr yn fuan.

"Mae'n rhaid, bron â bod, ailddyfeisio'r stryd fawr," meddai.

"Dydi canolfannau siopau newydd ddim yn cael eu codi, maen nhw'n rhy ddrud, felly mae'n rhaid bod yn greadigol ac mae angen dod â'r gymuned ynghyd i weld be maen nhw eisiau, eu hangen wrth symud ymlaen".

Yn ôl Mr Lloyd eu prif nod yn y tymor byr yw cynyddu nifer y bobl sy'n dod i ganol y ddinas ac yna mae'n dweud bod lle i gael cyfuniad o siopau mawr cenedlaethol ac annibynnol Cymreig i roi profiad unigryw i siopwyr.

Ond gydag oddeutu deugain o siopau gwag rhwng dau begwn stryd fawr hiraf Cymru, mae busnesau eraill yn galw am weithredu.

Disgrifiad o’r llun,

Perchnogion siop Cardiau, Valerie ac Adrian White

Mae Valerie ac Adrian White wedi bod yn gwerthu cardiau ac anrhegion yn y ddinas ers dros 30 o flynyddoedd, ond maen nhw rŵan yn ystyried rhoi'r gorau iddi os na fydd pethau'n gwella.

Maen nhw'n dadlau mai "siopau dillad, 'sgidiau, siopau bwyd" sydd ar goll yng nghanol y ddinas.

"Mae o'n marw bob blwyddyn ac yn enwedig jest cyn y pandemig. Mi oedd hynny'n wahaniaeth - pobl rŵan yn gweithio o gartref a 'dyn nhw ddim yn dod mewn i gael panad.

"Y peth ydi i ni, ma' hi'n anodd i ni efo expenses, yn enwedig i gyfro electric sydd 'di mynd fyny hefyd. Mae'n anodd cario mlaen efo footfall- dau gwsmer 'dan ni 'di ca'l bore ma'."

Wrth ymateb i'r buddsoddiad yng Nghanolfan Menai, dywedodd Valerie ei bod hi'n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn rhoi rheswm i bobl ddychwelyd i'r ddinas.

Mae Cyngor Gwynedd yn mynnu fod cynlluniau ar y gweill, gyda datblygiadau fel rhai diwylliannol Nyth y cwmni theatr ieuenctid Frân Wen, ailddatblygu parc y brifysgol a chynlluniau llesiant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dirprwy Faer Bangor, Elin Walker Jones yn croesawu'r buddsoddiad

Dywedodd Dirprwy Faer Bangor, y cynghorydd sir Elin Walker Jones bod sawl dinas a thref ar draws Cymru a thu hwnt "wedi dioddef yn aruthrol oherwydd y pandemig a ffactorau eraill".

O'r herwydd, meddai, "ma' rhaid i ni ailfeddwl sut fath o ganol dinas y'n ni angen fan hyn ym Mangor".

Ychwanegodd: "Yn amlwg y'n ni'n croesawu'r buddsoddiad. Hon yw dinas Bangor, dinas gogledd Cymru, dinas Gymreiciaf y byd. Mae'n rhaid i ni fod yn falch iawn o hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Hen siop H&M yw un o'r safleoedd sy'n dal yn wag

Mae yna gynllun hirdymor hefyd gan Lywodraeth Cymru a chynghorau sir i fanteisio ar dechnoleg werdd a chreu defnydd gwell o Drafnidiaeth Gyhoeddus.

Yn ôl Dr Siwan Mitchlemore o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor, fe allai hyn fod yn gyfle i Fangor ailddatblygu.

"Fasa'n help i'r broses," meddai. "Yr hyn sy'n denu pobl i ganolfannau tu allan i Fangor ydi parcio.

"Mae'r enwau mawr yn denu nhw i fanno, felly fasa ffeindio ffordd fwy cynaliadwy i ddenu pobl mewn, neud y siwrne yn haws a rhatach, yn gyfleus, sicr yn gallu helpu denu mwy o siopwyr i'r stryd fawr."

Mae hi hefyd yn pwysleisio fod rhaid gweithredu rŵan er mwyn atal rhagor o ddirywiad.

Pynciau cysylltiedig