Corwen: Mwy o amser i holi dyn am geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 27 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn parhau yn y ddalfa, wedi i lys roi mwy o amser i swyddogion ei holi.
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn ardal Clawdd Poncen, Corwen am 02:35 fore Gwener yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad domestig.
Fe arestiwyd dyn lleol ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Mae dynes 33 oed yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mewn diweddariad ddydd Sadwrn dywedwyd ei bod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Fe gludwyd tri o blant i'r ysbyty, mae un yn parhau i fod ag anafiadau difrifol gyda'r ddau arall bellach wedi'u rhyddhau.
Yn sgil y digwyddiad dywedodd Heddlu'r Gogledd nad oedd "bygythiad i'r gymuned yn ehangach" ond y bydd "presenoldeb heddlu uwch" dros y dyddiau nesaf.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Chris Bell, yr Uwch-swyddog Ymchwilio i Digwyddiadau Difrifol: "Mae ymholiadau'n parhau i ddigwyddiad difrifol sy'n amlwg wedi achosi poen meddwl ac rydym yn gwerthfawrogi fod hwn wedi achosi pryderon yn y gymuned leol.
"Mae ditectifs yn parhau i gynnal ymholiadau er mwyn darganfod yr union amgylchiadau o beth sydd wedi digwydd, ac mae'r dyn a gafodd ei arestio yn parhau i fod yn y ddalfa.
"Hoffwn sicrhau pawb nad ydym yn chwilio am rywun arall yn yr achos hwn ac nad oes bygythiad i'r gymuned ehangach.
"Mae presenoldeb yr heddlu yn parhau i fod yn ardal ar hyn o bryd.
"Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i trigolion ardal Clawdd Poncen am eu cefnogaeth barhaol, dealltwriaeth ac amynedd wrth i swyddogion barhau hefo eu gwaith.
"Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai ein cynorthwyo ni i gysylltu drwy ein sgwrs we fyw neu drwy alw 101. Plîs dyfynnwch y cyfeirnod A066020."