Cyhuddo dyn o lofruddio ar ôl darganfod corff dynes

  • Cyhoeddwyd
Stryd BeaconsfieldFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Georgina Dowey, 46, ei ddarganfod ar Ffordd Beaconsfield, Llangatwg, ar 7 Mai

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth wedi i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn tŷ ger Castell-nedd.

Cafodd corff Georgina Dowey, 46, ei ddarganfod mewn tŷ ar Ffordd Beaconsfield, Llangatwg, ar 7 Mai.

Mae Matthew Pickering, 48, o Ffordd Beaconsfield yn cael ei gadw'n y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.

Dywedodd Heddlu'r De fod teulu Ms Dowey yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu Georgina, sydd wedi'u heffeithio'n ofnadwy gan yr hyn sydd wedi digwydd.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol a thystion am eu cefnogaeth i'r ymchwiliad hyd yma.

"Dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth Georgina."

Ychwanegodd y bydd mwy o blismyn i'w gweld yn Llangatwg yn ystod y dyddiau nesaf a gofynnodd i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig