Mwy o stondinau nag erioed yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Y Maes, rownd y Castell a lawr am y cei yn orlawnFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Maes Caernarfon dan ei sang y llynedd

Roedd mwy o stondinau nag erioed yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon eleni.

Roedd gan y maes y tair ardal newydd a phedwar llwyfan berfformio ar draws y dre hefyd.

Y bwriad ydy rhoi cyfle i fandiau ifanc lleol i ddangos eu doniau, yn ogystal ag artistiaid mwy adnabyddus fel Band Pres Llareggub.

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi tyfu i fod yn un o wyliau bwyd mwyaf poblogaidd y gogledd-orllewin ers ei chynnal am y tro cyntaf yn 2016.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd pobl yn cyfrannu'n hael lle gallan nhw i'r ŵyl - sydd am ddim i'r cyhoedd, ond sy'n dod ar gost o dros £40,000 i'w threfnu.

Yn dilyn bwlch o ddwy flynedd oherwydd y pandemig, fe ddenodd yr ŵyl dros 30,000 o bobl i'r dref y llynedd.

Ymysg yr amcanion oedd adlewyrchu cymeriad a diwylliant Caernarfon drwy ddathlu bwyd lleol a hybu busnesau'r ardal.

Dywedodd Mirain Roberts, sy'n aelod o bwyllgor yr ŵyl: "Mi wnaethon ni gasglu adborth ac un peth oedd yn amlwg oedd bod pobl eisiau lot mwy o stondinau bwyd, felly 'da ni'n mynd o 24 stondin bwyd cyflym i 40."

Ychwanegodd bod yr ŵyl yn tyfu a thyfu bob blwyddyn a'i bod yn ymateb i'r galw: "Ma' 'na fwy o stondinau ar y cyfan hefyd gyda tri lleoliad newydd yn cael eu hychwanegu i'r ŵyl."

Disgrifiad o’r llun,

Bu pobl yn mwynhau'r adloniant ar fore Sadwrn

Ond mae'r ŵyl yn fwy na chyfle i hyrwyddo cynnyrch a busnesau lleol gan ddarparu llwyfan - yn llythrennol - i artistiaid cerddorol a fydd yn rhoi'r cyfle i wrando ar gerddoriaeth byw.

"Mae 'na bedwar llwyfan, ac mae 'na dalent lleol newydd ifanc ond hefyd enwogion fel Meinir Gwilym, Band Pres Llareggub a Ciwb," meddai Mirain.

Ar ben hynny, bydd stondinau amgen yn gwerthu celf a chrefft ac ati.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Lleisiau Côr Meibion Caernarfon yn rhoi dechrau da i'r diwrnod ar y Maes yn 2022

"'Da ni wedi gwneud ymdrech eto eleni i weithio tuag at fod yn ŵyl ddi-blastig," eglurodd Mirain.

Un o'r camau mae'r ŵyl wedi cyflwyno ydy cwpanau penodol aml ddefnydd.

"Ma' rhan fwyaf o'r masnachwyr yn nodi bod nhw'n defnyddio deunyddiau bioddiraddadwy, ond yn benodol eleni 'da ni'n cyflwyno gwydrau aml ddefnydd i'r ŵyl," meddai Mirain.

Gŵyl am ddim

Mae ehangu'r ŵyl o ran maint, ac ardaloedd fel y llwyfan ychwanegol yn achosi rhai heriau a phwysau ariannol.

"Mae hi'n ŵyl am ddim, ond mae hi'n costio £43,000 i'w chynnal," eglurodd Mirain.

"Dim ond £4,000 gafodd ei gasglu mewn rhoddion y llynedd, felly 'da ni wir yn galw ar bobl i fod yn hael yn ystod yr ŵyl, a'n cefnogi ni yn ariannol."

I leihau costau mae pawb sy'n gweithio ar drefnu a rhedeg yr ŵyl yn wirfoddolwyr gyda Grŵp Gŵyl Fwyd Caernarfon.

Criw o wirfoddolwyr lleol ydyn nhw, sy'n cyfarfod yn rheolaidd drwy'r flwyddyn er mwyn rhoi trefniadau mewn lle ar gyfer yr ŵyl nesaf.

Ffurfiwyd y grŵp ym mis Chwefror 2015 yn dilyn cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus a gynhaliwyd yn y dre.

Etholwyd Nici Beech yn gadeirydd, Eleri Lovgreen yn ysgrifennydd a Trystan Iorwerth ac Yasmin Khan yn drysoryddion.

Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Nici Beech ei bod hefyd yn falch gweld criw o wirfoddolwyr ifanc yn ymuno llynedd, gan ychwanegu eu bod yn "cymryd mwy o gyfrifoldeb eleni ac yn 'neud yn grêt".

Pynciau cysylltiedig