Corwen: Cyhuddo dyn, 27, o geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Heddwas yng Nghorwen
Disgrifiad o’r llun,

Yn sgil y digwyddiad dywedodd Heddlu'r Gogledd byddai "presenoldeb heddlu uwch" dros y dyddiau i ddod

Mae dyn 27 oed wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn Sir Ddinbych.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn ardal Clawdd Poncen, Corwen am 02:35 fore Gwener.

Nos Sul fe gadarnhaodd Heddlu'r Gogledd fod Ryan Wyn Jones, o Glawdd Poncen, wedi ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn mynd o flaen Llys Ynadon yr Wyddgrug fore Llun.

Mae'n wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio ac o fod ag arf llafnog yn ei feddiant.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Myfanwy Kirkwood: "Hoffem achub ar y cyfle unwaith eto i ddiolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'u cymorth.

"Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni, naill ai drwy ein sgwrs byw ar-lein, neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod A066020."

Mewn diweddariad dydd Sadwrn dywedodd y llu fod dynes 33 oed yn parhau i fod yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol, a'i bod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Gyda thri o blant hefyd wedi eu cludo i'r ysbyty, dywedon nhw fod un yn parhau i fod ag anafiadau difrifol gyda'r ddau arall eisoes wedi eu rhyddhau.

Pynciau cysylltiedig