Apêl heddlu ar ôl lladrad gwerth £3,500 o siop Tesco
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu yn y canolbarth yn chwilio am ddau ddyn fel rhan o'u hymchwiliad i ladrad o archfarchnad Tesco.
Fe gafodd gwerth £3,500 o nwyddau eu dwyn o'r siop yn Llandrindod.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, fe ddigwyddodd y lladrad yn y siop ar Heol Waterloo rhwng 16:30 a 16:40 ddydd Iau 20 Ebrill.
Dywedodd y llu fod nwyddau gofal croen, eli lliw haul ffug a phrofion beichiogrwydd ymhlith y pethau gafodd eu dwyn.
Maen nhw wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.