Y Cymro a 'phêl gron gyntaf' Wembley
- Cyhoeddwyd
Ar 3 Mehefin Manchester United a Manchester City fydd yn mynd ben-ben yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn Wembley. Mae 2023 yn nodi canrif ers i ffeinal cyntaf Cwpan FA Lloegr gael ei chwarae yn Wembley.
Mae ffeinal 1923 yn cael ei 'nabod fel 'ffeinal y ceffyl gwyn', oherwydd y lluniau trawiadol o un o'r ceffylau oedd yn rheoli'r dorf anferthol y dydd hwnnw.
Roedd y bêl gafodd ei defnyddio yn y ffeinal honno wedi ei dyfeisio gan Gymro, yn ôl ymchwil gan Alun Thomas o Gwm Rhymni.
Roedd Mr Thomas yn siarad am gyfraniad Tom Dudson i'r bêl-droed ar raglen Ar y Marc ar BBC Radio Cymru.
Mae'n debyg mai'r dyn o Abertridwr ger Caerffili wnaeth ddyfeisio'r bêl gyntaf gyda falf; doedd yr hen beli cyn hynny ddim yn hollol grwn, esboniodd Mr Thomas.
Roedd pledren o aer y tu mewn i'r cas allanol o ledr yn yr hen beli - gyda phledren mochyn yn cael ei ddefnyddio yn y dyddiau cynnar - ond roedd angen ffordd o chwythu'r aer i mewn i'r bêl.
"Yn yr hen bêl roedd rhaid gosod piben rhwng y cas lledr a'r bledren wedyn clymu popeth i fyny," meddai Mr Thomas.
"Ond oherwydd plygu'r biben roedd yn creu chwydd yn y bêl. Felly doedd dim modd galw'r bêl droed yn bêl gron cyn 1923.
"Camp Tom Dudson oedd gosod falf yn y bêl oedd yn cael ei chwyddo o'r tu allan i'r casyn gan ddarn metal a drwy hynny yn osgoi'r pigyn a'r chwydd oedd yn y bêl a felly creu'r bêl gron berffaith, y gronell [globe] berffaith.
"Felly Cymro o bentref glofaol Abertridwr yng Nghaerffili wnaeth greu'r bêl gron wreiddiol.
Pwy oedd Tom Dudson?
"Roedd Tom Dudson yn dipyn o arbrofwr, a'i deulu mae'n debyg yn dod o deulu clyfar tu hwnt, ac wedi gwneud ambell i arbrawf.
"Roedd yn byw yn y stryd fawr yn Abertridwr."
Fe ddarganfyddodd Mr Thomas y stori yn wreiddiol wrth ymchwilio i hanes yr ardal ar gyfer ei rôl fel trefnydd cyhoeddusrwydd i'r côr mae'n aelod ohono, sef Côr Meibion Cwm Aber.
Daeth o hyd i'r stori yn wreiddiol mewn gwaith ymchwil gan Gareth Pierce, awdur y llyfr Adnabod Cwm Rhymni.
"Felly mi ddarganfyddais i'r stori yma a wnaethon ni benderfynu, oherwydd ei bod hi'n Gwpan y Byd i fynd â'r stori at un o'r ysgolion cynradd lleol, Ysgol Gynradd Cwm Ifor, Abertridwr.
"Roedd y plant yn gegrwth o ddeall bod boi o'u cymuned nhw wedi creu'r bêl gron berffaith.
'Byddai'n braf nodi'r hanes'
"Yn sicr ac mae'n rhyfedd o beth fod y bêl yma wedi cael ei defnyddio yn ffeinal cyntaf un yn Wembley yn 1923.
"Mi fyddai'n beth braf dwi'n credu i weld hwn yn cael ei nodi ymhellach."
"Dwi'n credu bod ganddon ni amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn cael ei chreu yn Wrecsam a byddai hi'n beth braf yn byddai, i gael plant o'r ysgol leol i ddod a gwneud cyflwyniad? Fel bod rhan o'n hanes ni yn rhan o'r amgueddfa, a falle gawn ni bach o sylw gan yr FAW.
"Dwi'n gwybod bod y ffeinal yn Wembley a chwpan FA Lloegr oedd hi, ond falle bod modd i ni berchnogi hyn hefyd drwy FA Cymru."
Hefyd o ddiddordeb: