Olrhain taith hanesyddol tîm rygbi tu ôl i'r Llen Haearn
- Cyhoeddwyd
Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd un o glybiau rygbi Cymru yn 150 oed eleni, mae arddangosfa ar-lein yn cyflwyno hanes taith ryfeddol y tîm i Rwmania yn 1954.
Dyma oedd y tro cyntaf i unrhyw dîm o Brydain fentro tu hwnt i'r Llen Haearn - y ffin wleidyddol rhwng gorllewin Ewrop a'r gwledydd oedd dan reolaeth yr Undeb Sofietaidd.
Mae archifydd yn amau efallai bod yna gysylltiad rhwng gemau Clwb Rygbi Abertawe yn erbyn dau brif dîm Rwmania â gallu'r diweddar hyfforddwr rygbi Carwyn James i siarad Rwsieg.
A phan ymwelodd y Rwmaniaid â Chymru yn 1955 i chwarae ym maes San Helen, fe lwyddodd aelod o'r garfan i ffoi er mwyn osgoi dychwelyd adref, gyda chymorth dau o chwaraewyr Abertawe.
Cafodd y gemau yn erbyn dau brif dîm Rwmania - Locomotiva Bucharest a Constructorul Bucharest - eu trefnu i ddathlu dengmlwyddiant yr hyn yr oedd y comiwnyddion yn ei weld fel rhyddid rhag Natsïaid Yr Almaen.
Fel y mae arddangosfa Archif San Helen yn ei nodi, roedd Rwmania â thîm rygbi cenedlaethol ers 1919. Ynghyd â Ffrainc, fe wnaethon nhw geisio sefydlu cystadleuaeth ar gyfer timau ail haen hemisffer y gogledd ar batrwm pencampwriaeth gwledydd Prydain.
Wedi i'r comiwnyddion gymryd rheolaeth ar y wlad, cafodd tîm Rwmania ei eithrio o lefel uchaf y gamp.
Serch hynny roedd yna edmygedd yng Nghymru at safon eu chwarae yn 1954. Ysgrifennodd rheolwr y daith, Row Harding eu bod "yn taclo'n galed", bod yr amddiffyn "yn ardderchog" a'u bod yn "pasio'r bêl ar y cyflymdra uchaf".
Gwreiddiodd y syniad o gynnal taith yn 1953 pan gystadlodd y nofiwr o Gymru, Dick Smale yn yr Ŵyl Ryngwladol Ieuenctid a Myfyrwyr. Gofynnwyd ddo i holi a fuasai tîm rygbi'n fodlon teithio tu hwnt i'r Llen Haearn.
Mae un o arbenigwyr Archifau San Helen, David Dow, yn credu taw cysylltiad arall gyda'r Rhyfel Oer wnaeth droi'r fantol o blaid gwahodd Abertawe, yn hytrach na chlybiau Caerdydd neu Gaergrawnt.
"Roedd hyfforddwr chwedlonol Llanelli, Carwyn James yn chwarae i Abertawe ar y pryd," meddai.
"Roedd wedi gweithio i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac yn siaradwr Rwsieg rhugl, felly dyw e ddim yn naid fawr i amau bod rôl ganddo, efallai, o ran cael sêl bendith i'r daith gan yr awdurdodau."
Ychwanegodd: "Dyw cymeradwyaeth y Swyddfa Dramor i'r daith ddim mor rhyfedd ag y buasech yn ei feddwl. Roedd Rwmania ar y pryd eisiau llacio'u clymau â'r Undeb Sofietaidd a meithrin cysylltiadau diplomyddol a masnachol gyda'r Gorllewin.
"Byddai gwahodd tîm Prydeinig i ddod i ddathlu pen-blwydd eu rhyddhau [rhag y Natsïaid] gan yr Undeb Sofietaidd ynddoi'i hun yn sarhad i'r Kremlin."
Roedd yna ddechrau llai na delfrydol i'r daith - bu'n rhaid dargyfeirio dwy o dair awyren y clwb i Prague oherwydd stormydd, gan amharu ar amser i baratoi ar gyfer y gêm gyntaf yn erbyn Locomotiva Bucharest.
Er ail hanner da, fe fethodd y Cymry ag ymdopi mewn gwres o 32C, gan golli o 23-12.
Bu'n rhaid gohirio'r ail gêm am ddiwrnod er mwyn i'r tywydd wella, ac yn yr amodau mwy ffafriol fe drechodd Abertawe Constructorul Bucharest 16-5.
Roedd yr awyrgylch oddi ar y cae yn hwyliog, medd Mr Dow.
"Yn ôl bob sôn cafodd chwaraewyr Abertawe eu trin yn arbennig o dda - cawson nhw fwyd a gwin a'u gyrru gan chauffeurble bynnag roedden nhw'n dymuno."
Serch hynny, roedd yr awdurdodau lleol "wastad yn cadw golwg arnyn nhw" ac roedd rhaid darparu amserlenni o'u symudiadau.
"Roedd eu hystafelloedd yn cael eu bygio, oedd yn destun doniolwch mawr i'r chwaraewyr. Roedden nhw'n dweud pethau gwrth-gomiwnyddol gan wybod bod yr heddlu cudd yn gwrando heb allu gwneud dim amdano."
Cyrch MI5
Serch y fath drefniadau diogelwch fe lwyddodd un o'r Rwmaniaid i ffoi i'r Gorllewin y flwyddyn ganlynol pan ddaeth ei dîm i chwarae yma, gyda chymorth dau o chwaraewyr Abertawe.
Cafodd prop o'r enw S. Luric wahoddiad i swpera gyda Dil Johnson, Matty Davies a gwraig Davies, gyda sêl bendith y Rwmaniaid. Mewn cyrch oedd wedi ei drefnu o flaen llaw, cafodd ei gludo o'r tŷ gan MI5 dan drwynau'r swyddogion oedd yn gyfrifol amdano.
"Mae yna sïon bod Luric wedi chwarae i Harlequins ar ôl ffoi, o bosib dan enw arall. Ond does dim arwydd pam bod e eisiau ffoi na pham bod yr MI5 mor awyddus i'w helpu.
"Un ddamcaniaeth yw bod llawer o brif dimau rygbi Rwmania... wedi eu lleoli o amgylch y fyddin a'r heddlu ac o bosib y gallai gynnig gwybodaeth filwrol neu ddiogelwch."
Mae'r arddangosfa'n cynnwys erthyglau papur newydd, dyddiaduron, ffotograffau a llythyrau.
Mae dau fyfyriwr ôl-radd Prifysgol Abertawe wedi helpu gyda'r gwaith, gan gynnwys un a gafodd ei eni yn Rwmania oedd yn gallu cyfieithu a chynnig cyd-destun o'i famwlad.
Mae'n bosib gweld yr arddangosfa drwy apwyntiad ond mae i'w gweld hefyd ar-lein.
Dywedodd Mr Dow: "Mae'n bennod wych yn hanes Clwb Rygbi Abertawe dros 150 o flynyddoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd14 Medi 2016
- Cyhoeddwyd30 Awst 2015