Difrod 'bwriadol' gan gerbyd i safle Clwb Criced Aberaeron
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i Glwb Criced Aberaeron wynebu difrod "bwriadol", gydag olion cerbyd wedi ymddangos ar eu safle chwarae.
Yn ôl aelod o bwyllgor y clwb, mae'r difrod - sy'n cynnwys olion teiars tywyll - wedi toddi'r stribed plastig lle mae'r gemau criced yn cael eu chwarae.
Y gred yw y byddai ail-osod y tir astro yn costio rhwng £5,000 a £8,000 - cost mae'r clwb yn dadlau na fedran nhw ei fforddio.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i bencadlys Clwb Criced Aberaeron ddydd Llun, yn dilyn adroddiadau o ddifrod i'r tir.
Y gred yw i'r difrod ddigwydd dros Ŵyl y Banc - naill ai nos Sul neu yn oriau mân fore Llun.
'Mae'r olion am fod yno am byth'
Un o'r cyntaf i weld y difrod oedd Paul Graham, aelod o bwyllgor y clwb criced a hyfforddwr tîm y menywod.
"Fe ddaethon ni i fewn fore ddydd Llun i baratoi'r safle ar gyfer y gêm dan 13 a gweld y difrod i'r pitch a'r safle o'i amgylch," meddai.
"Roedd rhywun wedi gyrru car a sglefrio o amgylch y pitch."
Wrth ddisgrifio'i ymateb cyntaf, dywedodd ei fod yn "grac iawn" ac yn "flin dros y plant" oedd yn gorfod chwarae ar y safle'r prynhawn hwnnw.
"Roedd ychydig o sgidiau'r car o amgylch y borfa, ond roedden nhw hefyd wedi mynd ar y rhan blastig o'r pitch lle ry'n ni'n chwarae - ar y strip," meddai.
"Roedd y teiars yn amlwg wedi bod yn troelli gan losgi a thoddi'r plastig.
"Mae'r olion sydd ar yr astro turf nawr yn mynd i fod yno am byth, os na wnawn ni ei ailosod."
Mae Clwb Criced Aberaeron yn defnyddio'r tir ar safle'r ysgol leol, gyda bron i 300 o aelodau cyson yn chwarae yno'n wythnosol.
Er bod modd parhau i chwarae ar y safle, gyda'r gêm nos Lun ddiwethaf yn mynd yn ei blaen, mae'r pwyllgor yn poeni am gost y difrod.
'Ddim yn siŵr beth i'w wneud'
Yn ôl Mr Graham, 10 mlynedd yn ôl fe gostiodd y stribed astro rhyw £10,000 i'r clwb.
Mae'n dweud na all y clwb fforddio cost debyg eto.
"Rwy'n amau y gallai ail-osod yr arwyneb gostio rhwng £5,000 a £8,000," meddai.
"Ry'n ni'n glwb bach. Ry'n ni'n tyfu ond does gyda ni ddim llawer o arian yn y banc.
"Gallwn ni ddim fforddio ailosod y stribed, felly dy'n ni ddim yn siŵr beth ry'n ni am wneud."
Mae'r cynghorydd lleol, Elizabeth Evans yn dweud ei bod yn cydymdeimlo â'r clwb criced.
Mae'n dweud ei bod yn "siomedig" gyda'r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleol, a'r difrod "bwriadol".
"Mae'r bechgyn a'r merched yn y clwb criced mor ddigalon fod hyn wedi digwydd," meddai.
"Maen nhw mor weithgar. Mae e'n glwb llwyddiannus iawn. I hyn ddigwydd nawr, mae e'n gic fawr iddyn nhw.
"Ry'n ni yn cael ymddygiad fel hyn yn aml i ddweud y gwir. Dwi'n credu bod e'n digwydd ym mhob cymuned ond roedd hwn yn fwriadol.
"Aeth rhywun gyda char mewn i'r cae a gwneud beth wnaethon nhw, a dwi'n siomedig iawn fod hyn wedi digwydd."
Yn ôl y cynghorydd, fe fuodd yr heddlu ar y safle fore Llun ac maen nhw wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio ymhellach i'r mater.
Mae'r Cynghorydd Evans yn dweud hefyd ei bod hi'n croesawu'r camerâu cylch cyfyng fydd yn dod i Aberaeron cyn hir, er mwyn atal sefyllfaoedd tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020