Eurovision: Croesawu pobl Wcráin i Gymru yn 'emosiynol'
- Cyhoeddwyd
Pan laniodd Mykola Khromchak ym maes awyr Lerpwl, roedd ei feddwl mewn byd cwbl wahanol.
Doedd o ddim wedi clywed gan un o'i frodyr - sy'n ymladd dros luoedd Wcráin - ers sawl diwrnod.
Ynghanol miri mawr yr Eurovision, ei flaenoriaeth oedd cysylltu ag aelodau eraill o'r fyddin i geisio dod o hyd iddo fo.
"Neithiwr drwy'r nos mi fues i'n chwilio amdano fo drwy holi milwyr eraill - ydy o'n fyw 'ta be?" meddai.
"Dydy Mam ddim wedi cysgu ers pum diwrnod. Yn y dydd mae hi'n gweithio'n gweu rhwydi cuddliw (camouflage) - ac yn y nos mae'n disgwyl am ei mab."
Mae Mykola a'i fam bellach yn byw yng Ngwlad Pwyl ac mae'n un o'r miloedd sydd wedi bod yn helpu gydag ymdrechion dyngarol ers i luoedd Rwsia ymosod ar Wcráin ym mis Chwefror 2022.
Fe gafodd o - a sawl gwirfoddolwr allweddol arall - wahoddiad i ddod i Lerpwl ar gyfer Eurovision oddi wrth sefydliadau gan gynnwys PISC, elusen Bwylaidd o Wrecsam.
Mae PISC wedi bod yn flaenllaw wrth yrru rhoddion i Wcráin o ogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, ac unigolion fel Mykola sy'n dosbarthu'r nwyddau ar y pen arall.
Fe fuodd y grŵp yn gweld ymarferion rownd cynderfynol gyntaf Eurovision ac maen nhw'n bwriadu mynd i ymarferion y rownd derfynol hefyd.
"Sut ddylwn i deimlo am Eurovision?" gofynnodd Mykola.
"'Dwn i ddim. Mi fues i yno, ond doedd 'na ddim byd i ddangos bod 'na ryfel yn digwydd yn Wcráin - sef y rheswm pam bod Eurovision yn digwydd yn fan hyn."
Roedd 'na newydd da yn y diwedd am frawd Mykola - fe gafodd o'i ganfod yn fyw.
Ond i'r gwirfoddolwyr yma, sydd hefyd wedi ymweld â chanolfan PISC yn Wrecsam fel rhan o'u taith i'r DU, mae'n anodd dianc rhag yr erchyllterau - er mai rhoi "hoe" iddyn nhw ydy'r bwriad drwy eu gwahodd yma.
'Teimlo fel rhan fach o rywbeth llawer mwy'
Rhan o waith Andrii Savka ydy cludo cyrff milwyr sydd wedi marw yn ôl i'w hardaloedd genedigol.
"Y rhan gwaetha' yn hyn i gyd ydy pan ti wedi colli rhywun sy'n agos ata' ti," meddai.
"Mi ydan ni'n mynd i 'nôl y milwyr yma a'u cludo ar eu siwrne olaf.
"Wedi hynny ti'n teimlo'n erchyll am gyfnod, ac mae'n digwydd bron bob wythnos."
Er hynny, mae bod yn Lerpwl adeg Eurovision wedi codi ei galon.
"Dwi'n hapus bod Eurovision yn digwydd ym Mhrydain ond yn amlwg mi fyddai'n well pe bai'n cael ei gynnal yn Wcráin," meddai.
"Ti'n teimlo fel un rhan fach o rywbeth llawer mwy - yr oll 'da ni ei angen rŵan ydy bod Wcráin yn ennill!"
'Ein gwlad yn dal i fodoli'
Mae Tetiana Tytovych yn rhedeg elusen i bobl ag anableddau yn ninas Ternopil yng ngorllewin Wcráin.
Un o'r eitemau mae hi wedi eu cario yn ei bag i Brydain ydy baner enfawr, gydag olion dwylo pobl maen nhw'n eu helpu wedi eu peintio arni.
"Cyfle arall i ddangos bod ein gwlad ni'n dal i fodoli ydy'r Eurovision 'ma," meddai.
"Mae ganddon ni gyfle i godi ein baner - arni hi mae olion dwylo plant amddifad o Mariupol, plant sydd wedi gorfod aros ym Mariupol a mamau sydd wedi colli meibion.
"'Da ni'n cario'r faner yma drwy eich strydoedd chi i ddangos bod angen cefnogaeth a help ar ein gwlad ni o hyd."
O'i chanolfan yn Nôl yr Eryrod, Wrecsam, mae Anna Buckley wedi bod yn cydlynu ymdrechion i yrru nwyddau allweddol i Wcráin - ac mae hi newydd ddychwelyd o'r wlad honno, ble bu'n gweld i ble'n union mae'r nwyddau hynny'n mynd.
Mae croesawu'r gwirfoddolwyr o Wcráin i Gymru ac i Lerpwl wedi bod yn "emosiynol iawn", meddai.
"I fi, mae dod â'r bobl sy'n gwirfoddoli ar ran PISC yn Wcráin yma yn ffordd o ddangos iddyn nhw be' 'da ni'n ei wneud yng Nghymru," meddai.
"Mae gynnon ni 3,000 o wirfoddolwyr yma.
"Dwi eisiau dangos yr holl ymdrechion ar y pen yma fel eu bod nhw'n gwybod nad ydyn nhw ar eu pennau'u hunain yn y rhyfel yma - mae 'na bobl yma tu ôl iddyn nhw."
Ac er bod y pryderon am ei frawd wedi bod yn gysgod dros ei ymweliad, mae gweld yr ymdrechion dyngarol wedi creu argraff ar Mykola.
"Mi ddes i yma i weld y bobl hynny sy'n gwneud gwaith da - pobl sy'n gwella'r byd 'ma," meddai.
"Doedd gen i ddim ffydd mewn pobl ond mae'r rhyfel 'ma wedi dangos bod 'na fyd arall y galla' i gredu ynddo fo."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2023
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2023