Digwyddiad Porthmadog: Heddwas wedi'i wahardd o'i waith
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod heddwas wedi cael ei wahardd o'i waith yn dilyn fideo o ddigwyddiad ym Mhorthmadog sydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn y clip, mae'n ymddangos bod dyn yn cael ei daro gan swyddog heddlu sawl gwaith wrth gael ei arestio brynhawn Mercher.
Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd gadarnhau fod dyn 34 oed o Borthmadog wedi ei gludo i'r ysbyty "o ganlyniad" i'r digwyddiad, a'i asesu gan staff meddygol, cyn cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae'r dyn a gafodd ei arestio bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd ddydd Iau fod y mater wedi ei gyfeirio at y corff annibynnol sy'n ymchwilio i honiadau'n ymwneud â'r heddlu - yr IOPC.
"Gallwn gadarnhau bod y swyddog a oedd yn rhan o'r digwyddiad wedi'i wahardd o'i waith," meddai Heddlu'r Gogledd mewn datganiad pellach ddydd Gwener.
"Yr IOPC sy'n arwain yr ymchwiliad ac felly ni allwn ddarparu mwy o wybodaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2023