Cyd-gyfansoddwraig Sheeran yn cael tatŵ dyfarniad llys
- Cyhoeddwyd
Mae'r gantores a'r gyfansoddwraig Amy Wadge, o Rondda Cynon Taf, wedi cael tatŵ o ddyfarniad rheithgor ar ei braich wedi iddi hi a'r canwr enwog Ed Sheeran ennill achos llys yn ymwneud â'r gân 'Thinking Out Loud'.
Mi wnaeth Ms Wadge, o Bentre'r Eglwys, gyd-ysgrifennu'r gân boblogaidd gyda Sheeran, ond cafodd y pâr eu cyhuddo o gopïo 'Let's Get It On' gan Marvin Gaye.
Cafodd yr achos ei gynnal mewn llys yn Efrog Newydd ac yn y pen draw dyfarnwyd nad oedd Ms Wadge a Sheeran wedi copïo'r gân o'r 1970au.
Cafodd 'Thinking Out Loud' ei chyhoeddi yn 2014 ac enillodd Sheeran a Ms Wadge Grammy yn 2016 amdano.
Profiad 'cwbl ofnadwy'
Yn siarad ar BBC Radio Wales, yn ei chyfweliad cyntaf ers yr achos, dywedodd Ms Wadge bod y dyfarniad yn "rhywbeth hanesyddol."
"Mae wedi bod yn wyth mlynedd o gysgod dros fy mywyd... ac mae wedi bod yn gwbl ofnadwy," dywedodd.
"Ar yr un pryd roedden i ac Ed yn gwybod ein bod yn ymladd am rywbeth hanesyddol.
"Er mwyn cofio'r adeg pan ddywedodd y rheithgor bod ein cân wedi'i chreu yn annibynnol - mae gennyf y geiriau yna fel tatŵ ar fy mraich."
"Mi fydd siŵr o fod yn cymryd ychydig o amser i mi sylweddoli ei fod drosodd ac i fynd yn ôl i normalrwydd," ychwanegodd.
"Fel maen nhw'n ei ddweud, pan rydych yn dweud y gwir, mi fydd y gwir yn eich rhyddhau."
Dywedodd Ms Wadge ei bod nawr yn gobeithio cyhoeddi caneuon newydd.
"Mae Ed a fi wastad yn ysgrifennu caneuon pan rydyn ni gyda'n gilydd. Felly credwch fi, mae gennym lawer o ganeuon newydd o'r mis diwethaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2023
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023