Casnewydd: Teyrnged i fenyw gafodd ei chanfod yn farw

  • Cyhoeddwyd
Kelly Pitt
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Kelly Pitt ei bod yn "enaid prydferth, ac yn berson hyfryd"

Mae teulu menyw a gafodd ei chanfod yn farw mewn tŷ yng Nghasnewydd ddydd Gwener wedi talu teyrnged iddi.

Cadarnhaodd Heddlu Gwent mai Kelly Pitt, 44, oedd ei henw.

Roedd yr heddlu wedi eu galw i eiddo yn Sandalwood Court am 11:30 ddydd Gwener.

Mae dyn 25 oed o Gasnewydd yn parhau yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Nid yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar hyn o bryd.

'Byth yn gallu dod i delerau'

Mewn teyrnged, dywedodd teulu Ms Pitt ei bod yn wyres, merch, chwaer, mam, a mam-gu hoffus.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Sandalwood Court am 11:30 ddydd Gwener

"Roedd hi'n enaid prydferth, ac yn berson hyfryd ar y tu mewn a'r tu allan," meddai'r deyrnged.

"Roedd hi'n garedig, meddylgar, doniol a byddai'n helpu unrhyw un.

"Cafodd Kelly ei chymryd yn llawer rhy fuan, ac rydym wedi'n dinistrio gan yr hyn ddigwyddodd.

"Cafodd ei chymryd mewn ffordd mor boenus na fyddem byth yn gallu dod i delerau ag e.

"Hoffem ddiolch i'r gwasanaethau brys am ymateb mor gyflym ac i'r heddlu am ein cefnogi ar adeg anodd fel hyn.

"Diolch am y negeseuon o gydymdeimlad, hoffem yn awr gael llonydd i alaru'n breifat fel teulu."

Pynciau cysylltiedig