Teyrnged i ŵr a thad 'cariadus' wedi gwrthdrawiad Betws-y-Coed

  • Cyhoeddwyd
Adam a'i fabFfynhonnell y llun, Llun teulu / Heddlu Gogledd Cymru

Mae teyrnged wedi ei roi i ŵr a thad 30 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Betws-y-Coed ddydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar y ffordd rhwng Betws-y-Coed a Llanrwst yn fuan wedi 13:00.

Roedd beic modur a Citroën Berlingo arian yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Bu farw Adam Kenyon o Fae Cinmel yn y fan a'r lle.

'Caredig, hael a llawn egni'

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu ei fod yn fab, brawd, ŵyr ac ewythr cariadus, "ond y pwysicaf, yn ŵr cariadus i Kayleigh a thad i Tommy".

"Roedd yn hynod garedig, hael ac yn llawn egni.

"Roedd yn caru ei deulu ac roedd ganddo angerdd enfawr at geir a beics a gwnaeth ffrindiau arbennig ar hyd y ffordd."

Dywedodd ei wraig, Kayleigh, fod "cymaint efo ni i edrych ymlaen ato sydd, yn anffodus, wedi ei gymryd oddi wrthon ni lawer yn rhy fuan.

"Ry'n ni'n dy garu a bydda i'n dy golli gymaint, fy hyfryd ŵr a ffrind gorau."

Fe wnaeth y teulu ddiolch i'r gwasanaethau brys a ffrind Adam, Chris, oedd wrth ei ymyl "hyd y diwedd".

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am dystion neu unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A470 ger Betws-y-Coed sydd efo lluniau camera cerbyd i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig