Rhyddhau dyn o fechnïaeth wedi marwolaeth perfformiwr drag

  • Cyhoeddwyd
Darren Haydn Meah-MooreFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Darren Haydn Meah-Moore ei ddarganfod yn farw ar 22 Ionawr

Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad perfformiwr drag wedi'i ryddhau o fechnïaeth yr heddlu dan ymchwiliad.

Cafodd y dyn 50 oed ei arestio yn dilyn marwolaeth Darren Haydn Meah-Moore, 39, yng Nghaerdydd ar 22 Ionawr.

Roedd Mr Meah-Moore, o Gasnewydd, yn berfformiwr drag o dan yr enw CC Quinn, a chyn hynny fel Crystal Coutoure.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod ymchwiliadau'n parhau i ganfod achos ei farwolaeth.

Ychwanegodd y llu fod teulu Mr Meah-Moore wedi eu hysbysu a'u bod yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt teulu.

Pynciau cysylltiedig