Prinder wyau'n bosib wrth i gostau ffermwyr ddyblu

  • Cyhoeddwyd
WyauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ffermwyr yn rhybuddio y gallai'r DU wynebu prinder wyau "erbyn y Nadolig" os nad yw adwerthwyr yn talu mwy amdanynt.

Yn ôl arweinwyr y diwydiant, mae ffermwyr yn cefnu ar y busnes o ganlyniad i'r cynnydd mewn costau byw a bwydo.

Yn ôl y corff sy'n cynrychioli ffermwyr wyau, BFREPA (British Free Range Egg Producers Association), fe allai hyn olygu y bydd silffoedd marchnadoedd ar hyd y wlad yn wag eleni.

Dywedodd y corff bod hyn o ganlyniad i gynnydd mewn costau cynnyrch, sydd wedi bod yn straen ar ffermwyr wyau.

Mae costau bwydo ieir wedi codi 50% ac mae costau byw wedi cynyddu dros 40% yn y misoedd diwethaf, ac mae ffermwyr yn profi amser caled ar hyn o bryd.

'Pris popeth yn codi - heb law am wyau a llefrith'

Mae Llion Pugh yn ffermio ieir yn Llanegryn ger Tywyn. Mae ganddo 32,000 o ieir ac mae'n gwerthu dan yr enw Wyau Dysynni.

Dros y misoedd diwethaf mae wedi profi cyfnod anodd wrth i gostau gynyddu, ac mae'n anobeithio am y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae costau bwydo'r ieir wedi codi i dros £9,000 yr wythnos, medd Llion Pugh

"Ma' prisoedd blawd, siocled, cig a bron i bob dim arall yn cynyddu, ond dydy wyau a llaeth ddim," meddai.

"Dio'm yn gwneud synnwyr bod bob dim yn cynyddu mewn pris heblaw am wyau a llaeth.

"Dwi'n meddwl y dylai fod cynnydd o 20 ceiniog am hanner dwsin o wyau - dydy hynny ddim yn llawar o gwbl, yn enwedig os 'da chi'n meddwl am faint ma' pethau eraill yn codi hefyd.

"Dylai'r llywodraeth wedi camu mewn blynyddoedd yn ôl i reoleiddio'r costau hyn - mae pethau'n mynd yn flêr i ni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae costau cynhyrchu Wyau Dysynni yn "hedfan i fyny", yn ôl Llion Pugh

Nid yw pethau'n haws i Llion ers i gostau byw gynyddu yn y misoedd diwethaf.

"Mae ein costau trydan yn dyblu i £20,000 y flwyddyn a 'da ni angen prynu blawd i fwydo'r ieir," meddai.

"Mae hynny wedi codi i £355 y tunnell 'ŵan, felly 'dan ni'n gorfod talu dros £9,000 yr wythnos. Mae'r prisoedd yn hedfan fyny.

"Does dim llawer o arian yn y swydd, 'da ni gorfod talu arian i'r banc ac i lawer o bobl os nad ydynt ar gontract da, mae petha'n anoddach."

'Bydd y misoedd nesaf yn galed'

Yn ôl arolwg gan y BFREPA, mae dros 70% o ffermwyr wyau yn dweud y byddan nhw'n gadael y diwydiant os nad ydy prisiau wyau'n codi y flwyddyn nesaf.

Er nad dyna fwriad Llion Pugh, mae'n dweud bod ffermwyr wyau eraill yng Nghymru yn wynebu sefyllfa lle nad oes ganddynt ddewis.

"Dwi ddim am stopio, 'dan ni'n iawn ond mae pobl eraill yn stryglo, yn enwedig os nad ydynt ar gontract da.

"Mae pob cwmni yn wahanol a bydd rhai ffermwyr yn gallu ymdopi, ond i nifer bydd y misoedd nesaf yn galed iddynt."

Mewn datganiad, dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru: "Mae'r diwydiant ieir ym Mhrydain wedi bod dan bwysau sylweddol o ganlyniad i nifer o broblemau, gan gynnwys y rheini achoswyd gan rwystrau di-doll i allforion i'r Undeb Ewropeaidd, ac yn benodol o ganlyniad i ffliw adar a chyfyngiadau perthnasol.

"Ym mis Mawrth, nododd y Cyngor Diwydiant Wyau Prydeinig bod costau wedi codi tua 30% ac eu bod nhw wedi ysgrifennu at Brif Weithredwyr archfarchnadoedd Prydain yn galw ar gostau defnyddwyr wyau i adlewyrchu hyn."

Dywedodd Robert Gooch, Prif Weithredwr BFREPA nad yw archfarchnadoedd yn gwneud digon i helpu ffermwyr wrth i gostau gynyddu.

"Mae'r costau cynyddol yn cael eu pentyrru ar ffermwyr ac nid yw adwerthwyr yn addasu'r pris adwerthu ddigon," meddai.

"Mae unrhyw godiad pris sy'n cael ei wneud yn rhy fach - maen nhw'n achosi dioddefaint i fusnesau.

"Mae llawer o ffermwyr yn colli arian ar wyau. Mae'r galw amdanynt yn enfawr, ond dwi'n ofni y byddwn yn gweld prinder o wyau ar y silffoedd cyn hir."

Pynciau cysylltiedig