Gwario £440,000 ar ymchwilio i bryfed fel ffynhonnell fwyd

  • Cyhoeddwyd
MealwormsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod dros £440,000 wedi'i wario ers 2017 ar brosiect ymchwil sy'n edrych ar bryfed fel ffynhonnell fwyd.

Mae'r cyllid yn rhan o brosiect ymchwil i ffynonellau bwyd amgen, sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth y DU.

Mae'r Bug Farm yn Sir Benfro yn ganolfan ymchwil sy'n canolbwyntio ar sut y gellir defnyddio pryfed i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

Mae'r ganolfan wedi derbyn dros £399,000 o'r cyllid.

Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r gwariant, gan ddweud y byddai buddsoddi mewn ffermio lleol yn darparu "cymorth sydd wir ei hangen i'r sector amaethyddol".

'Bwydo poblogaeth sy'n tyfu'

Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi gwario £440,081.96 ers 2017 ar ymchwil sy'n edrych ar sut i ddatblygu pryfed fel ffynhonnell fwyd.

Mae'r Bug Farm yn Nhyddewi yn berchen ar tua 85 hectar o dir, sy'n cynnwys gwartheg du Cymreig, cnydau gwenith ac erwau o gynefin bywyd gwyllt.

Yn ôl eu gwefan, nid yw pryfed yn cael eu ffermio ar y safle, ond mae ganddyn nhw arddangosfa ar ffermio pryfed mewn amgueddfa.

Mae eu gwaith "yn ymchwilio i sut y gallant ffermio i fwydo poblogaeth sy'n tyfu, a gofalu am fywyd gwyllt ar yr un pryd".

Mae'r fferm hefyd yn cynnwys y caffi pryfed llawn amser cyntaf yn y Deyrnas Unedig, Grub Kitchen, sy'n cynnig prydau sy'n cynnwys pryfed.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwyta pryfed yn gyffredin yn Asia, Affrica a De America

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio dweud fod y cyllid wedi'i ddefnyddio i chwilio am wahanol ffynonellau bwyd ar gyfer prydau ysgol am ddim, ond dywed Llywodraeth Cymru fod gan y prosiect ymchwil "ddim byd o gwbl i'w wneud â darparu prydau ysgol am ddim".

Dywedodd lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion cefn gwlad, Samuel Kurtz AS: "Mae gennym ni ddiwydiant ffermio rhagorol yng Nghymru, un rwyf yn falch ohono.

"Dyma ddylai Llywodraeth Cymru fod yn chwilio amdano fel ffynhonnell ar gyfer prydau ysgol.

"Byddai defnyddio cynnyrch lleol ar gyfer prydau ysgol am ddim yn hybu'r economi leol, gan ddarparu cymorth sydd wir ei hangen i'r sector amaethyddol, tra hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i ddisgyblion a rhieni."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd y cyllid hwn ar gyfer prosiect ymchwil i ffynonellau bwyd amgen, a gefnogir gan y Sefydliad Ymchwil Busnesau Bach a weithredir gan Lywodraeth y DU.

"Nid oes gan hyn unrhyw beth i wneud â'n darpariaeth o brydau ysgol am ddim i blant cynradd, sy'n cael ei chyflwyno ledled Cymru ar hyn o bryd."