Cacennau cynrhon a byrgyrs o bryfed: Bwyd y dyfodol?

  • Cyhoeddwyd
Pryfed cyfan ac wedi prosesu

Wrth glywed am bobl yn bwyta pryfed mae'n bosib y byddwch yn meddwl am un o heriau y 'bushtucker trial' ar raglen I'm a Celebrity… sy'n dechrau y penwythnos hwn mewn cyfres newydd yng Nghymru.

Ond gallai bwydydd sy'n cynnwys pryfed fod ar eu ffordd i fwydlenni yn agos atoch chi - oherwydd dyna ffocws ymchwil sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd.

Mae gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn edrych ar bryfed fel rhan o borthiant i anifeiliaid yn ogystal â ffynhonnell fwyd i bobl.

Mae'r gwaith yn rhan o ValuSect, prosiect sy'n anelu at wella cynhyrchu a thechnegau prosesu pryfed yn gynaliadwy.

70% protein

Mae pryfed yn rhan gyffredin o fwydlen bob dydd pobl mewn gwledydd ar draws y byd, fel Mecsico, China a Ghana.

Maen nhw'n cynnig ffynhonnell brotein sy'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd na llawer o fwydydd eraill, a gallent helpu i fwydo poblogaeth gynyddol y byd.

Tra'n edrych ar focs o dros 20,000 o gynrhon melyn byw (mealworms) dywedodd Teresa Davies - technegydd labordy yn y brifysgol - y gallai pryfed fod yn gynhwysyn mewn ystod o fwydydd gwahanol.

Disgrifiad o’r llun,

Does dim llawer o flas i'r trychfilod, meddai Teresa Davies o'r labordy

"Chi'n gallu gwneud cacs neu energy bars, smoothies a phethau i gael lot o brotein," meddai.

"Maen nhw'n tua 70% protein felly maen nhw'n ffantastig. Byrgyr neu myffin hefyd - does dim lot o flas 'da nhw sai'n meddwl felly ti'n gallu adio rhywbeth arall i roi blas i'r myffin."

Yn wahanol i I'm a Celebrity…, dyw'r ymchwil ddim yn ymwneud â'r posibilrwydd o fwyta pryfed cyfan, amrwd.

Mae'r gwyddonwyr yn Aberystwyth yn astudio gwerth maethol pryfed wedi'u prosesu - sy'n cael eu sychu a'u malu i greu math o flawd i'w ddefnyddio mewn ryseitiau.

Dywed yr Athro Alison Kingston-Smith - sy'n arwain y prosiect ymchwil - y gall pryfed fod yn ffynhonnell bwysig o brotein cynaliadwy.

Disgrifiad o’r llun,

Gyda llawer o brotein ynddynt, fe allai'r pryfed gael eu hychwanegu at fwydydd eraill, meddai'r Athro Alison Kingston-Smith

"Maen nhw'n llawn protein ac asidau brasterog sy'n dda iawn i ni. Mae'n ffynhonnell dda iawn o fwyd maethol," meddai.

"Yr hyn ry'n ni am ei wneud yw deall sut y gallwn fwydo'r pryfed i'w gwneud yr ansawdd gorau y gallant fod i ddarparu'r ansawdd maethol sydd ei angen arnom ar gyfer bwyd anifeiliaid a bwyd i bobl.

"Byddai'r defnydd mwyaf arferol mewn rhywbeth fel bar ynni. Gallem eu defnyddio mewn nwyddau wedi'u pobi.

"Gallem hefyd ei ddefnyddio fel ychwanegiadau protein ar gyfer cynhyrchion fel iogwrt, hufen iâ, y mathau hynny o bethau. Dyna'r defnydd mwyaf tebygol."

Mae ValuSect, sy'n sefyll am Valuable Insects, yn gonsortiwm o bartneriaid a gydlynir gan Brifysgol Thomas More yng Ngwlad Belg ac a gefnogir gan grant €2.08m gan raglen INTERREG gogledd-orllewin Ewrop.

Mae'r grant ychwanegol yn ymestyn y rhwydwaith ymchwil ac yn cynnwys partneriaid prosiect newydd yn Yr Almaen.

Hyd yn hyn mae'r prosiect wedi bod yn astudio criciaid, ceiliogod y rhedyn a chynrhon melyn fel bwyd dynol.

Bydd y grant newydd yn ychwanegu pryfyn newydd - y black soldier fly (Hermetia Illucens) at y fwydlen, ac yn ymestyn y gwaith i edrych ar ddefnyddio cynhyrchion pryfed mewn bwyd anifeiliaid.

Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn cael eu rhannu â busnesau bwyd ac amaeth ledled gogledd Ewrop.

Disgrifiad o’r llun,

Fydd cynrhon yn bethau cyffredin ar fwydlenni ymhen 20 mlynedd?

Mae arolygon barn yn awgrymu bod tua 30% o bobl yr Undeb Ewropeaidd yn barod i fwyta bwyd sy'n cynnwys pryfed.

Nod ValuSect yw cynyddu'r ganran yma trwy wella ansawdd cynhyrchu a phrosesu pryfed, cynnal profion defnyddwyr a lleihau ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae rhai cynhwysion sy'n seiliedig ar bryfed eisoes ar gael, ac mae'r Athro Kingston-Smith yn credu bod y dewis o fwydydd yn debygol o gynyddu dros y degawdau nesaf.

"Fyddech chi ddim yn cuddio'r ffaith bod [bwyd] yn cynnwys protein pryfed - ond rwy'n credu mai'r syniad o fwyta locust cyfan sy'n llai apelgar na rhywbeth sydd mewn cynnyrch lle mae'r ymddangosiad a'r teimlad yn wahanol.

"Os edrychwn ni ar y ffordd y mae'r defnydd o fwyd wedi newid dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, ry'n ni'n derbyn llawer mwy o wahanol fathau o fwyd, gwahanol flasau nawr.

"Ry'n ni am gofleidio pob diwylliant gwahanol yn ein chwaeth bwyd, a dwi'n credu mai pryfed yw'r cam nesaf yn hynny o beth.

"Mewn 20 mlynedd arall bydd yn beth cyffredin mynd i gael eich pryfed ar fwydlen a la carte!"