Ateb y Galw: Catrin Rowlands

  • Cyhoeddwyd
Catrin RowlandsFfynhonnell y llun, Catrin Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Rowlands

Catrin Rowlands sydd yn Ateb y Galw'r wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Mererid Wigley.

Daw Catrin yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth ac mae hi'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i gŵr Trystan a'u plant, Jac ac Arthur. Mae hi'n gynhyrchydd teledu sy'n gweithio ar raglenni ffeithiol ac yn rhedeg cwmni cynhyrchu Captain Jac gyda'i gŵr.

Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiant darlledu ac wedi cynhyrchu cyfresi i sianelau fel S4C, BBC Wales a BBC FOUR.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae hi wedi gweithio'n llaw-rhydd yn cynhyrchu cyfresi fel Young, Welsh and Pretty Skint, Young Welsh and Pretty Religious a Young Welsh and Pretty Minted i BBC Wales a BBC Three. Bu hefyd yn rhan o dîm cynhyrchu HIV and Me i BBC Wales ac yn fwy diweddar bu'n cynhyrchu Y Stiwdio Grefftau i S4C.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd ar lin fy nhad-cu o flaen y tân pan o'n i tua pedair mlwydd oed. Roedd clust tost gen i, ac roedd e'n rhoi cwtsh anferth i mi i drio cynhesu'r glust.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Traeth Coppet Hall yn Saundersfoot. Mae gen i atgofion melys yn mynd ar wyliau fel plentyn i Saundersfoot ac ar dripiau ysgol Sul. Erbyn hyn, ni wedi treulio sawl haf yno gyda'r plant ac ma' nhw r'un mor hapus yno.

Ffynhonnell y llun, Catrin Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Traeth Coppet Hall yn Saundersfoot

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Parti noson priodas ni wrth gwrs! Nethon ni briodi pum diwrnod cyn 'Dolig yn 2010 ac fe wnaeth fwrw eira'n drwm rai diwrnodau cyn hynny. Bron iawn i ni fethu priodi o gwbl gan bod cymaint o eira, ond fe lwyddodd y rhan fwyaf o bobl i gyrraedd (mewn wellies) a chafon ni'r diwrnod a noson perffaith! Pawb oedd yn bwysig i ni mewn un stafell a digon o fwyd a gwin!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Siaradus, Caredig, Styfnig.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Dwi'n chwerthin lot ac yn hoffi gwneud i bobl eraill chwerthin. Ges i nghodi mewn teulu oedd yn llawn sbri a chwerthin ac mae meddwl nôl am fy mhlentyndod yn codi gwên ar fy wyneb. Mae chwerthin wastad yn torri'r garw ac mae hynny mor bwysig gyda'r holl ddiflastod sydd yn y byd ar hyn o bryd. Dwi'n trio chwerthin o leiaf unwaith y dydd!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Un o'r jobs cynta ges i ar ôl gadael coleg oedd gweithio yn swyddfa docynnau Undeb Rygbi Cymru. Un diwrnod, daeth Barry John i mewn i gasglu ei docynnau i un o gemau Cymru. Gan bo' fi ddim yn dilyn rygbi, wnes i ddim nabod e a gorfod gofyn am ei enw. Roedd pawb yn y swyddfa'n methu credu'r peth a Dad yn hollol embarassed bod ei ferch ddim wedi 'nabod un o arwyr rygbi Cymru!

Disgrifiad o’r llun,

Un o arwyr rygbi Cymru, Barry John

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi'n crïo lot ac yn berson emosiynol iawn! Ond dwi ddim yn meddwl bod hynny'n beth drwg.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n rhegi lot! Dwi'n siarad yn fy nghwsg felly fydda' i byth yn gallu cadw cyfrinach wrth Trystan, y gŵr!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dwi wastad wedi caru darllen nofelau ac mae gen i gymaint o hoff lyfrau. Mae dianc i fyd ac i fywydau pobl eraill yn ddihangfa llwyr. Un o fy hoff lyfrau yn blentyn oedd The Faraway Tree gan Enid Blyton a dwi dal yn hanner gobeithio dod ar draws y fath goeden ar waelod yr ardd!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Miriam Margolyes! Ma hi jest yn gwneud i mi chwerthin cymaint. Mae'n becso dim a dwi wir yn gobeithio y bydda i yr un peth wrth i mi fynd yn hŷn. Wnes i ddarllen ei chofiant hi'n ddiweddar ac mae wedi byw bywyd difyr. Byddwn i'n dwli rhoi'r byd yn ei le gyda hi.

Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Miriam Margoyles

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Roeddwn i'n 'Fairy Queen' yng ngharnifal Penygroes pan o'n i'n bum mlwydd oed. Nath y lori dorri i lawr ar y ffordd i'r cae a wnaethon ni bron iawn ddim cyrraedd!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Eistedd gyda fy nheulu yn gwylio'r machlud haul ar lan y môr, yn bwyta chips!

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Ma'r llun 'ma o fy mhlant, Jac ac Arthur yn un o fy hoff luniau. Ma'r ddau'n edrych mor hapus a direidus sy'n gwneud i mi wenu, ond dyma'r tro ola' i ni dreulio'r diwrnod gyda Mam a Dad, cyn i ni golli Dad. Bydd y llun yma wastad yn sbeshal.

Ffynhonnell y llun, Catrin Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Jac ac Arthur, plant Catrin

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Rhywun fel Michelle Obama neu Jacinda Arden - menywod cryf a phwerus sy' hefyd yn synhwyrol ac yn famau ond yn gwneud gwahaniaeth i'r byd.

Hefyd o ddiddordeb: