Ateb y Galw: Jacob Elwy
- Cyhoeddwyd

Jacob Elwy
Y canwr Jacob Elwy, ac aelod o Y Trwbz sydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl cael ei enwebu gan ei frawd, Morgan Elwy yr wythnos ddiwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?
Tywyllwch.

Jacob wedi dal y 'byg' perfformio yn ifanc
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Y gogledd. Gogledd is the best.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
01. 07. 2016.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Age, race, gender.

Teulu'r Elwy yn mwynhau. Jacob ar y chwith, Morgan Elwy ar y dde
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Euro 2016.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwyn cerdyn Pokémon gen ffrind.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
11.12.1282
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes.

Jacob, Mared Williams a Morgan Elwy yn perfformio yng Ngwyl Nôl a Mlaen, Llangrannog
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?
Norse mythology gen Neil Gaiman. Epic, big Loki fan.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Judas Iscariot. Dweud wrtho be dwi'n feddwl ohono a wedyn maddau iddo.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
Fi yw Brenin y Gogledd.

Gigio gyda'i fand. Jacob yn y canol a'i frawd Morgan ar y dde
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Deals.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Dyma fy ffrind gore.

Ci Jacob, ei ffrind ffyddlon
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Spartacus.
Hefyd o ddiddordeb: