Protestiwr yn euog o gynllwynio i achosi difrod troseddol

  • Cyhoeddwyd
Gwasnaethau brys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle yn Llanandras wedi'r brotest ar 9 Rhagfyr

Mae artist o Aberystwyth wedi ei chanfod yn euog o fod â rhan mewn protest a achosodd ddifrod gwerth £1.2m i ffatri ym Mhowys.

Roedd Ruth Hogg, 40, yn rhan o grŵp a oedd yn credu bod ffatri Teledyne Labtech yn Llanandras yn creu byrddau cylched ar gyfer drôns yn Israel.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod Hogg, a oedd yn ymgyrchydd Palesteinaidd, wedi ei chanfod yn euog o gynllwynio i achosi difrod troseddol ar 9 Rhagfyr y llynedd.

Roedd dwy ddynes arall ac un dyn eisoes wedi pledio'n euog i'r un cyhuddiad.

'Cyfystyr ag ymosodiad terfysgol'

Clywodd y llys fod Hogg yn un o ddau brotestiwr a ddringodd i do'r ffatri a'i bod wedi torri ffenestri gwydr a drilio tyllau yn y to.

Fe wnaeth dau brotestiwr arall fynd mewn i'r ffatri a chwalu sgriniau cyfrifiaduron, chwistrellu paent a gosod grenadau mwg.

Cafodd baner yn cefnogi Palestina ei rhoi ar draws ochr y ffatri.

Dywedodd yr erlynydd Elen Owen fod yr "ymosodiad wedi ei gynllunio'n broffesiynol" ac yn debyg i "ymosodiad terfysgol".

"Mi wnaethon nhw dargedu ffatri fach yng nghefn gwlad Cymru, a oedd â chysylltiadau gwan â chwmnïau arfau a hynny er mwyn sicrhau y cyhoeddusrwydd mwyaf," meddai.

Dywedodd yr erlyniad nad oedd y ffatri yn gyfleuster milwrol a'u bod yn creu darnau ar gyfer peiriannau MRI ac offer radar.

Clywodd y llys fod y ffatri yn methu gweithredu am dair wythnos ar ôl y brotest wrth i'r difrod gael ei drwsio.

"Credoau cryf"

Yn amddiffyn Hogg, dywedodd James Manning ei bod yn "person efo calon dda" a oedd yn credu ei bod yn gweithredu i helpu pobl ym Mhalestina.

"Mae'n amlwg yn berson gyda chredoau cryf," dywedodd.

"Mae pobl yn gweithredu ac mae'n achosi newidiadau, ac mae'n rhaid i chi edrych ar yr achos yma yn y goleuni hwnnw."

Fe wnaeth Susan Bagshaw, 65, o Gommins Coch, Morwenna Grey, 41, o Fachynlleth, a Tristan Dixon, 34, o Huddersfield, bledio'n euog i gynllwynio i achosi difrod troseddol ar ddechrau'r achos llys.

Mae'r pedwar diffynnydd yn parhau yn y ddalfa ac fe fyddant yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ym mis Mehefin.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands nad oedd ganddo amheuon am ddiffuantrwydd yr hyn roedd Ms Hogg yn ei gredu.

"Mae pobl dda yn gwneud pethau drwg weithiau - ac roedd hyn yn beth drwg iawn," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig