Arestio beiciwr modur wedi anaf difrifol i gerddwr
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr 20 oed wedi dioddef "anafiadau sy'n bygwth ei fywyd" ar ôl cael ei daro gan feic modur.
Mae gyrrwr y beic, dyn 23 oed, wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Fe ddigwyddodd ar Ffordd Victoria yn Abertawe, sy'n cael ei adnabod yn lleol fel Quay Parade, am 21:35 nos Wener.
Dioddefodd gyrrwr y beic modur fân anafiadau ac fe'i gludwyd i'r ysbyty.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymwybodol bod nifer o feiciau modur wedi bod yn teithio gyda'i gilydd ar hyd Heol y Mwmbwls cyn y gwrthdrawiad.
Dywedodd Ditectif Sarjant Lee Christer: "Hoffem glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu a all fod ag unrhyw luniau camera cerbyd o'r digwyddiad neu a welodd y grŵp o feicwyr modur cyn y gwrthdrawiad."