Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 48 oed.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i eiddo ar Hill View Crescent yn ardal y Clâs, Abertawe, am 10:30 fore Sadwrn.
Cafodd dyn 38 oed ei arestio ac mae'n parhau yn nalfa'r heddlu, meddai'r llu.
Nid yw'r corff wedi'i adnabod yn ffurfiol eto ac mae'r heddlu yn apelio ar y cyhoedd am wybodaeth.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Prendiville: "Yn amlwg, bydd y digwyddiad hwn yn achosi sioc i gymuned glos y Clâs.
"Rwyf am sicrhau'r gymuned bod arestiad cynnar wedi'i wneud ac y bydd presenoldeb heddlu yn parhau yn yr ardal wrth i ni fwrw ymlaen â'n hymchwiliadau a cheisio tawelu meddwl y gymuned."