Pâr priod wedi dwyn £150,000 oddi wrth gyn-gogydd Michelin

  • Cyhoeddwyd
Stephen Terry
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Terry wedi ymddangos ar raglen Great British Menu y BBC

Mae pâr priod wnaeth dwyllo cogydd adnabyddus wedi osgoi cyfnod o garchar.

Roedd Nicola Nightingale, 48 oed, yn gyfrifol am gadw cyfrifon The Hardwick yn Y Fenni, Sir Fynwy - gwesty sydd yng ngofal Stephen Terry.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Nightingale wedi trosglwyddo £150,000 i wahanol gyfrifon rhwng Chwefror a Mai 2020.

Roedd ei gŵr, Simon Nightingale, 50, wedi trosglwyddo £46,000 o'r arian i'w gyfrif banc.

Cafodd y ddau, sydd o Gaint, eu dedfrydu i ddwy flynedd o garchar gohiriedig.

Yn dilyn y dedfrydau, dywedodd Mr Terry fod y penderfyniad i beidio rhoi cyfnod o garchar i'r ddau yn "jôc".

Fe ddaeth y twyll i'r amlwg yn ystod pandemig Covid ym Mawrth 2020.

Dechreuodd Mr Terry - a gafodd ei hyfforddi gan y cogydd adnabyddus Marco Pierre White - amau ymddygaid Nicola Nightingale.

Fe geisiodd Mr Terry gysylltu â'r ddau am anghysondebau yn y cyfrifon ond ni chafodd ateb. Yna, fe wnaeth Nichola Nightingale anfon e-bost yn ymddiswyddo.

Clywodd y llys ei bod wedi bod yn talu gormod o gyflog i'w hunan a'i bod wedi creu anfonebau ffug gan gyflenwyr nad oedd yn bodoli.

'Problem alcohol'

Roedd y pâr wedi bod ar wyliau i Foroco, ac wedi bod â'u plant i Disney World yn Orlando, ac i Euro Disney, ddwywaith.

Daeth i'r amlwg hefyd bod dau fenthyciad o £40,000 wedi'u cymryd yn enw Mr Terry heb ei ganiatâd.

Clywodd y llys fod gan y fam i bump broblem "fawr iawn gydag alcohol a'i hiechyd meddwl".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Y cyn-gogydd Michelin, Stephen Terry sydd yng ngofal The Hardwick

Roedd Nicola Nightingale eisoes wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau yn ei herbyn yn Llys Ynadon Casnewydd, ond roedd Simon Nightingale wedi gwadu ei ran yn y twyll.

Dywedodd wrth y llys nad oedd ganddo unrhyw syniad ei fod wedi derbyn arian gan y bwyty, lle'r oedd ef hefyd yn gweithio.

Penderfynodd y llys ei fod yn euog o feddu ar eiddo troseddol.

Cafodd y ddau eu dedfrydu i garchar gohiriedig o ddwy flynedd a gorchymyn i wneud 100 awr o waith di-dâl i'r gymuned.

'Jôc'

Mewn datganiad effaith dioddefwr, dywedodd Mr Terry fod yr hyn ddigwyddodd wedi niweidio ei enw da.

Yn dilyn y gwrandawiad llys, ychwanegodd ei fod yn "gobsmacked" gyda'r dedfrydau.

"Am yr effaith y mae wedi'i chael ar ein teulu, ein busnes, ein gweithwyr - mae'n rhaid cael rhyw fath o gosb am hynny," meddai.

"Maen nhw wedi cael £150,000 gan fusnes bach.

"Dydyn ni ddim yn gwneud llawer o arian. Mae'n llafur cariad, mae'n angerdd.

"I fod yma heddiw ac i gael y newyddion y byddai'r ddau ohonyn nhw'n cael dedfrydau gohiriedig, mae'n jôc."