Cofio'r Gymanfa Ganu enfawr yn Llundain
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 60 mlynedd ers achlysur arbennig yn Neuadd Albert, Llundain. Yn 1963 cynhaliwyd Cymanfa Ganu enfawr gyda 5,400 o Gymry'n cymryd rhan yn y canu o dan arweiniad Terry James, gyda Cyril Anthony'n canu'r organ.
Roedd y recordiad o'r Gymanfa yn 1963, A Nation Sings, yn llwyddiant rhyngwladol ysgubol, ac mae'n parhau i fod o bwysigrwydd diwylliannol hyd heddiw.
Ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru, ar 21 Mai, roedd y cyfansoddwr Gareth Glyn yn trafod yr hanes gydag Alun Thomas.
"Mae'n arwyddocaol oherwydd bod Cymry yn eu miloedd wedi tyrru i Neuadd Albert yn '63, ac yna eto ddwy flynedd yn ddiweddarach, o gynulleidfaoedd ledled Cymru - yn gapeli ac yn eglwysi.
"Fe 'naethon nhw ganu mewn modd mor ysbrydoledig ac yn einiedig nes bod unrhyw un sy'n gwrando ar y record am y tro cyntaf neu beidio, hyd yn oed heddiw, yn cael yr un wefr bob tro.
'Credu'r geiriau'
"Mi ddigwyddodd rhywbeth yno, achos roedd 'na ddigonedd o gymanfeydd canu'n cael eu recordio ac ar LP pryd hynny, ac maen nhw'n wych.
"Ond roedd rhywbeth ynghylch hwn. Tybed ai Terry James yr arweinydd oedd yn tynnu popeth allan o'r gynulleidfa, tybed os mai Cyril Anthony oedd yn organydd hynod fedrus oedd yn uno plethu efo'r gynulleidfa gan eu darllen nhw'n iawn a'u dilyn ac arwain nhw'n iawn ar yr un pryd?
"Ond dwi'n teimlo 'wrach bod y bobl aeth yno isho agor eu calonnau, wel, i Dduw bron iawn fysach chi'n dweud. Doedden nhw ddim yn canu a dweud 'ylwch llais soprano da sgen i'. Na, roedden nhw'n credu'r geiriau. Dyna sy'n dod drosodd, bod 'na deimlad a rhyw wefr ysbrydol yn y canu sydd falla ar goll mewn rhai recordiadau eraill."
Felly, pam fod y record wedi gwneud gymaint o argraff ar Gareth Glyn? Mae'r diolch i'w dad yng nghyfraith, John Cwyfan Hughes, meddai.
"Mi roedden ni'n ffrindiau mawr," eglurodd. "O'n i'n ista yn ei study o, jest fo a fi, a'r chwaraeydd recordiau yn gwrando ar y record yma.
"Roedd John wrth ei fodd efo pregethu mawr ac emynau mawr. Un o'i recordiau oedd Jubilee Young yn traddodi ac yn dynwared Christmas Evans a pregeth y Llys Barn, ac mi roedden ni'n dau yn ymuno yn y perorasiwn.
"Roedd fy nhad yn canu emynau, roedden ni'n canu emynau yn y car ac ati, felly doedd o ddim yn newydd i mi glywed emynau o gwbl. Ond o wrando ar y record yma do'n i ddim yn gwybod ble i fynd - roedd o'n brofiad enbyd i mi. Ges i dröedigaeth; dim mod i 'rioed 'di clywed canu emynau o'r blaen, ond o'n i erioed 'di clywed y math yma o ganu emynau o'r blaen."
Y pedwar llais
Cafodd y miloedd o Gymry oedd yno y dydd hwnnw eu gosod yn ôl eu lleisiau yn y neuadd fawr, yn hytrach nag o ba gôr roeddent yn canu yn ôl adref yng Nghymru. Gofynnai Alun Thomas os mai safon y canu sydd yn gwneud y record mor arbennig, ac os yw oes y canu pedwar llais wedi pasio.
"Dwi ddim yn meddwl ein bod yn colli hynny," oedd ateb Gareth Glyn, "achos mae gymaint o gorau sy'n cadw'r traddodiad i fynd.
"Ond lle mae'r dirywiad wedi digwydd ydi bod cynulleidfaoedd capel 'di mynd yn 'chydig iawn. 'Da ni'n dal i gael 20-25 yn ein capel ni, rhai eraill yn cau o'n cwmpas ni. Ac mae'r traddodiad SATB (Soprano, Alto, Tenor a Bas)... os oes 'na bobl ifanc sy'n gynulleidfaoedd ifanc yn dŵad, efallai bod nhw heb eu trwytho yn y traddodiad ac yn meddwl ei fod yn hen ffasiwn. Mae'n beth da iawn bod Radio Cymru er enghraifft yn creu llyfrgell sain i gadw'r oesoedd a ddêl.
"Fe ddigwyddodd y diwygiad 60 mlynedd ynghynt, ond mi roedd beth bynnag 'nath danio y cynulleidfaoedd bryd hynny yn dal yn y gwaed ac mae'n dod allan yn y canu. A dwi'n meddwl bod ansawdd y canu yn dechnegol, ac ansawdd y canu o ran be' 'da chi'n ei roi i fewn iddo fo yn bethau gwahanol, a dyna dwi'n meddwl yw'r allwedd ar gyfer llwyddiant cymanfa ganu fel hyn."
Fe ddaeth cydnabyddiaeth yn eithaf sydyn i arwyddocâd cymanfaoedd 1963 ac 1965, a'r record A Nation Sings. Ond mae llawer o'r diolch am lwyddiannau'r recordiau yma'n mynd i ddynes o Awstria, fel esboniai Gareth Glyn.
"Mae'r llawer o'r diolch wrth gwrs yn mynd i rywun sydd ddim llawer o sôn amdani - does 'na ddim cofnod iddi ar Wicipedia Cymraeg nac yn Saesneg - ei henw hi yw Isabella Wallich, ac yn 1954 'naeth hi sefydlu y cwmni recordio Delysé.
"Roedd ganddi hi ddiddordeb brwd iawn mewn cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig- fe 'nath hi LP o raglen deledu Ivor Emmanuelle, Gwlad y Gân. Record Gymraeg ei hiaith oedd hon a werthodd yn rhyngwladol am yr union 'run rheswm; efallai bod y bobl o ddim yn deall y Gymraeg ond maen nhw'n deall ac yn gwerthfawrogi canu Cymraeg, a dyna be' sy'n bwysig."
Roedd cwmni recordio Delysé hefyd wedi cyhoeddi cerddoriaeth Geraint Evans, Meredydd Evans, David Lloyd a straeon Tomos y Tanc.
"'Naeth hi lawer mwy o gymhwynas i'r iaith Gymraeg ac i ganu yng Nghymru nag oedd llawer o bobl wedi deall ar y pryd - dydi'i henw hi ddim ar dafod nifer, ond hi oedd y ddynes gyntaf erioed i sefydlu ac i weithredu cwmni recordiau, heb sôn am ddim byd arall."
Yn y blynyddoedd ers y recordio yn Neuadd Albert mae A Nation Sings wedi parhau i fod yn record hynod boblogaidd, ac yn ôl sôn fe roedd Richard Burton yn meddwl y byd ohoni. Mae'n parhau fel atgof o'n hanes crefyddol ni, ein traddodiad fel cenedl i ganu mewn corau, a'n henw fel gwlad y gân.
Hefyd o ddiddordeb: