Cyn-lobïwr yn cyfaddef creu delweddau anweddus o blant

  • Cyhoeddwyd
Daran Hill
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Daran Hill yn rheolwr gyfarwyddwr ar gwmni lobïo gwleidyddol

Mae cyn-lobïwr gwleidyddol wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o greu a dosbarthu delweddau anweddus o blant.

Roedd Daran Hill, 52, o Gaerdydd yn gyfarwyddwr cwmni lobïo Positif Politics tan 2021.

Mae wedi cyfaddef i ddau gyhuddiad o ddosbarthu delweddau anweddus o blant ar wefannau cymdeithasol Kik a Whatsapp, a thri achos o greu delweddau o'r fath.

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â dosbarthu 10 delwedd - i gyd yn rhai Categori A, sef y math mwyaf difrifol - a thri achos o greu delweddau yn cynnwys wyth o rai Categori A, pedwar o rai Categori B a 50 o ddelweddau Categori C.

Cafodd Mr Hill ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod ei fod yn aros mewn cyfeiriad yn Llangyfelach, Abertaewe.

Gorchmynwyd iddo beidio dod i gysylltiad â phlant dan 18 oed, na mynd ar y rhyngrwyd ar unrhyw ddyfais na fedr yr heddlu ei gwirio.

Bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 6 Mehefin.

Mae ei gyn-gwmni wedi newid ei enw erbyn hyn, ac nid oes gan Mr Hill unrhyw gysylltiad â nhw.