Croesawu £46m ychwanegol i wasanaethau bws Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £46 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi er mwyn cynnal gwasanaethau bysiau.
Wrth annerch y Senedd yng Nghaerdydd brynhawn Mawrth, dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, mai'r nod ydi cael pobl i ddefnyddio bysiau unwaith eto.
I ardaloedd fel Blaenau Ffestiniog mae gwasanaethau bws yr ardal yn hollbwysig i bobl hŷn a theuluoedd sydd heb geir - gyda nifer yn dweud bod bysiau yn eu galluogi i fynd i siopa, gweld ffrindiau neu fynychu apwyntiadau gyda'r meddyg ac ati.

Dywed Marion Jones, sy'n byw yn Nhanygrisiau bod y gwasanaeth bws yn "hanfodol" iddi hi
"Sgen i ddim car a dwi ddim yn dreifio ar ben fy hun a dwi'n teimlo pan oedd Covid… wel roedd yn wasanaeth ofnadwy o bwysig," meddai Marion Jones, sy'n defnyddio'r gwasanaeth bws yn aml.
"Mae gen i boenau yn fy ochr wedyn o'n i methu cario lot o fwyd."
Un arall sy'n credu bod y gwasanaethau bws yn hollbwysig ydy Abi Jones, mam i dri o blant ifanc.
"Mae'n mega pwysig, dwi'n mynd arno bob dydd bron… dwi na'r partner ddim yn dreifio."
I Margaret Roberts hefyd mae'n wasanaeth gwbl hanfodol.
"Dwi'n iwsio bys bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, i ddod fyny i'r dref ac adref yn ôl. Mae'r gwasanaeth yn brilliant," meddai.

Mae'r gwasanaeth bws yn brilliant," medd Margaret Roberts
Yn ystod mis Chwefror daeth y gwasanaeth bws y T19 rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno i ben.
Nawr, mae yna alwad o'r newydd ar Lywodraeth Cymru i ailsefydlu'r gwasanaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn sy'n cynrychioli ward Bowydd a Rhiw ar Gyngor Gwynedd: "Dwi'n dallt yn ddiweddar fod y llywodraeth wedi dweud 'na' i adeiladu mwy o ffyrdd gan fod nhw isio pobl i ddefnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus.
"Ond dydy hynny ddim yn mynd i weithio os nad ydi'r llywodraeth yn darparu'r gwasanaethau yna.
"Felly dwi'n galw arnyn nhw heddiw i wneud yn siŵr fod 'na fws pendant yn mynd rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog."
Er mwyn helpu'r cwmnïau bws fe wnaeth Llywodraeth Cymru glustnodi £150m o daliadau brys i'r diwydiant.
Ddydd Mawrth cyhoeddwyd yn y Senedd yng Nghaerdydd y bydd £46m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i gadw'r gwasanaethau i fynd yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Dywed pobl mewn ardaloedd gwledig eu bod yn ddibynnol ar wasanaeth bws
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd: "Mae'n rhaid i ni gael gwasanaeth bysiau sydd wedi ei seilio ar ofynion y bobl, nid gofynion y farchnad.
"Rydyn ni wedi bod yn trafod gyda'r undebau a Thrafnidiaeth Cymru sut allwn ni siapio ymgyrch i gael mwy o bobl i ddefnyddio bysiau.
"Dydyn ni ddim yna eto ond rydyn ni'n symud i'r cyfeiriad cywir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2023