Nyrsys yn dal i fwriadu streicio dros gyflogau gwell

  • Cyhoeddwyd
nyrsys yn piceduFfynhonnell y llun, PA Media

Mae nyrsys yng Nghymru yn dal i fwriadu cynnal streiciau yn ystod y ddeufis nesaf, er bod undebau iechyd ar y cyd wedi derbyn cynnig cyflog diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Fe ddaeth y cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod ddydd Mawrth rhwng y llywodraeth a 12 o undebau sy'n cynrychioli staff fel nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion a gweithwyr ambiwlans.

Mae 10 o'r 12 undeb wedi derbyn y cynnig, ar ôl i'w haelodau bleidleisio o blaid - ac o dan y drefn sy'n bodoli mae hynny'n golygu fod y grŵp o undebau wedi ei dderbyn drwy gydgytundeb.

Yn ôl y gweinidog iechyd, Eluned Morgan fe fydd staff nawr yn derbyn taliadau ychwanegol "cyn gynted ag y bo'n ymarferol".

'Dyletswydd i fwrw 'mlaen'

Er hynny, mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn dadlau fod ganddynt ddyletswydd i fwrw 'mlaen â streics gan bod eu haelodau wedi'i wrthod - oni bai fod Llywodraeth Cymru yn ailagor "trafodaethau ystyrlon".

Bythefnos yn ôl fe gyhoeddodd y Coleg yng Nghymru fod 53% o'r aelodau gymrodd rhan yn y bleidlais wedi dewis gwrthod a 47% wedi pleidleisio o blaid.

Cynnig Llywodraeth Cymru oedd 5% o godiad cyflog i'r staff iechyd perthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a thaliad un-tro ychwanegol ar gyfer llynedd o rhwng £900 a £1,190.

Roedd yna amryw o ymrwymiadau hefyd i wella amodau gwaith.

Mynnodd y Gweinidog Iechyd, ar y pryd, mai dyma oedd y cynnig "gorau" a "therfynol".

Ar ôl bod ar streic am ddeuddydd yn ystod mis Rhagfyr mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru bellach yn bwriadu cynnal streiciau pellach ar 6-7 Mehefin a 12-13 Gorffennaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y gweinidog iechyd Eluned Morgan ei bod yn "cydnabod teimladau cryf aelodau pob undeb"

Mae undebau GMB a Unite - sy'n cynrychioli nifer sylweddol o weithwyr y gwasanaeth ambiwlans, fuodd hefyd ar streic yn ystod y misoedd diwethaf - wedi derbyn cynnig y llywodraeth.

Ond mae Cymdeithas y Radiograffwyr, ynghyd â'r nyrsys, yn dal i fynnu nad yw'r cynnig yn ddigon da, er nad yw'r corff hwnnw eto wedi bygwth streicio.

Nid yw undebau sy'n cynrychioli meddygon a deintyddion ddim yn rhan o'r trafodaethau penodol hyn.

Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Rwy'n falch bod aelodau'r undebau, ar y cyfan, wedi derbyn ein cynnig ac rwy'n ddiolchgar i'n holl undebau am weithio gyda ni mewn partneriaeth gymdeithasol.

"Rwyf felly wedi penderfynu gweithredu'r cynnig ar gyfer holl staff yr Agenda Ar Gyfer Newid yn GIG Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati ar unwaith i ddechrau'r broses ar gyfer gwneud y dyfarniad cyflog fel y bydd gweithwyr yn cael y taliadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

"Mae dau undeb yn dal i fod mewn anghydfod ynghylch dyfarniad cyflog 2022-23 ac rwy'n cydnabod teimladau cryf aelodau pob undeb, ni waeth a wnaethant bleidleisio i dderbyn y cynnig neu ei wrthod.

"Gan gynnal y cydgytundeb, byddwn ni'n parhau â thrafodaethau pan allwn ni er mwyn rhoi sylw i bryderon penodol dilys ac osgoi unrhyw weithredu diwydiannol pellach."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth nyrsys gynnal streic ddau ddiwrnod ym mis Rhagfyr

Dywedodd Helen Whyley, Cyfarwyddwr RCN Cymru: "Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn parhau i fod mewn anghydfod ffurfiol gyda llywodraeth Cymru dros gyflogau'r GIG ar ôl i fwyafrif o'r aelodau wrthod y cynnig cyflog.

"Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol heddiw, gan geisio ail-ddechrau trafodaethau ar frys, ac oni bai bod hynny'n digwydd, bydd ein haelodau ar y llinellau piced unwaith eto o'r mis nesaf ymlaen.

"Rwy'n parchu'r rhai yn yr undebau eraill a bleidleisiodd i dderbyn, ond nid dyma farn mwyafrif ein haelodaeth.

"Nid yw'r penderfyniad i gymryd streic yn cael ei wneud yn ysgafn gennym ni na'n haelodau. Nyrsys yw'r rhan fwyaf o weithlu'r GIG ac mae angen cynnig arnynt sy'n cyd-fynd â'u gwir werth.

"Mae angen clywed lleisiau nyrsys unwaith ac am byth, cyn i'r proffesiwn a'r gofal cleifion gael eu disbyddu ymhellach."