GIG: Nyrsys i streicio am ddau ddiwrnod arall fis nesaf
- Cyhoeddwyd
Bydd nyrsys yn streicio eto am ddau ddiwrnod arall fis nesaf os na ddaw datrysiad erbyn diwedd Ionawr, yn ôl pennaeth undeb.
Dywedodd Helen Whyley, cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, y byddai'r gweithredu'n digwydd ar 6 a 7 Chwefror.
Fe gyhuddodd Llywodraeth Cymru o wrthod cynnig codiad cyflog digonol i staff y gwasanaeth iechyd.
Mae'r Llywodraeth wedi cynnig codiad o rhwng 4% a 5.5% i staff.
Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, gynnig daliad untro i'r staff hefyd yn ystod trafodaethau gydag undebau ddydd Iau.
Ond fe ddywedodd yr undeb "nad oedd dewis" ganddyn nhw ond paratoi i streicio eto, er y trafodaethau.
Ddydd Llun, dywedodd Helen Whyley: "Roeddwn i wedi gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru wedi newid eu ffordd o ymdrin â'r sefyllfa a dychwelyd at y bwrdd i negodi gyda'r RCN o ddifrif dros gyflogau GIG a chynnig dyfarniad cyflog sylweddol ac adferol.
"Dyw hynny ddim wedi digwydd hyd yma," ychwanegodd.
"Mae eu cynnig o daliad untro, wedi'i ariannu gan arian 'a gafodd ei ddarganfod i lawr cefn y soffa' yn dangos amarch Llywodraeth Cymru tuag at yr argyfwng yn y gweithlu nyrsio a diffyg ymrwymiad gwirioneddol i fod eisiau mynd i'r afael â'r sefyllfa."
Dywedodd Ms Morgan wrth raglen BBC Politics Wales ddydd Sul mai "dechrau'r drafodaeth" oedd y cynnig o daliad untro.
"Efallai na allwn gyrraedd yn bell ond ry'n ni'n trio'n gorau," dywedodd.
"Dw i'n credu bod pobl Cymru yn deall fod yr hyn allwn wario ar iechyd yng Nghymru yn ganlyniad uniongyrchol o faint allan nhw wario ar iechyd yn Lloegr.
"Gallwn ni ei addasu rywfaint ar yr ymylon ond mewn gwirionedd dyna'r sefyllfa."
'Nyrsys yn haeddu parch'
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig Russell George: "Mae'r RCN wedi ei dweud hi'n berffaith eu hunain - mae'n rhaid i Lafur stopio esgus mai nad eu cyfrifoldeb nhw yw tâl y GIG a bod yn rhaid iddyn nhw gael trafodaethau ystyrlon gyda nyrsys.
Ychwanegodd mai "dim ond trwy negodi allwn ni gael datrysiad i'r anghydfod hwn" er mwyn rhoi "urddas i nyrsys".
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal: "Mae ein nyrsys yn haeddu parch gan y Lafur am yr holl waith y maent wedi'i wneud i ofalu amdanom pan oedd ei angen arnom fwyaf.
"Maen nhw'n cael eu gorweithio - a hynny heb ddigon o adnoddau ac thâl ceiniog a dimau.
"Mae gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yr arian a'r modd i wneud cynnig gwell, trwy gyllid sydd heb ei ddyrannu a chronfeydd wrth gefn. Yr hyn sydd ei angen arnyn nhw yw'r ewyllys i dalu'r hyn maen nhw'n ei haeddu i'n nyrsys - parch a chyflog teg."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023