Gobaith am fwy o Gymraeg yng Ngŵyl y Gelli eleni

  • Cyhoeddwyd
Julie Finch
Disgrifiad o’r llun,

Julie Finch: "Rydan ni'n dangos i'r byd pa mor bwysig ydy Cymru a'r Gymraeg"

Mae disgwyl dros chwarter miliwn o ymwelwyr dros yr 11 diwrnod nesa' wrth i Bowys groesawu Gŵyl y Gelli.

Yn cychwyn ddydd Iau, dyma ŵyl gyntaf y prif weithredwr newydd, sydd wedi addo gwrando ar beth mae cynulleidfaoedd eisiau ei weld.

Yn ôl Julie Finch mae'n bosib y byddai hynny'n cynnwys fwy o Gymraeg.

"Dwi ddim yn poeni," meddai, "mae popeth dan reolaeth, dwi'n meddwl ac mi ydan ni'n barod am ein artistiaid a'n cynulleidfaoedd.

"Mae'r Gelli'n dref ddiddorol, ar y ffin ac mae hi mor bwysig i ni ein bod ni'n denu pobl i Gymru... i ddod yma, i aros yma, i wario'u pres mewn bwytai a thafarndai.

"Drwy'n rhaglen Writers at Work, digwyddiadau ar y prif lwyfan, awduron bendigedig o Gymru ac artistiaid creadigol, mi rydan ni'n dangos i'r byd pa mor bwysig ydy Cymru a'r Gymraeg."

Enwau mawr

Fe fydd sêr y byd cerddoriaeth Stormzy a Dua Lipa ymhlith yr enwau mawr fydd yn ymddangos yng Ngŵyl y Gelli eleni.

Dywedodd Stormzy fod llyfrau a llenyddiaeth "wedi sbarduno taith oes gyda geiriau ac ysgrifennu" sydd wedi ei arwain at frig y siartiau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Stormzy yn perfformio yn ystod yr ŵyl sy'n cael ei chynnal rhwng 25 Mai a 4 Mehefin

"Rwy'n gyffrous iawn i drosglwyddo fy angerdd yng Ngŵyl y Gelli a dathlu awduron anhygoel #MerkyBooks ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o storïwyr," meddai.

Bydd Dua Lipa yn cyflwyno recordiad byw o'i phodlediad At Your Service yn y Gelli.

Ymhlith y cerddorion eraill fydd yn ymddangos yno mae'r brodyr o'r Alban The Proclaimers a Judi Jackson.

Mae disgwyl i'r actor Helena Bonham Carter ymddangos yno ynghyd â Maer Llundain Sadiq Khan a Syr Patrick Vallance.

'Dim digon o Gymraeg'

Mae 'na feirniadaeth wedi bod o'r diffyg sylw at yr iaith Gymraeg yn yr ŵyl yn y gorffennol, ac mae Crïwr Tref Y Gelli ychydig yn siomedig am hynny.

Disgrifiad o’r llun,

George Tofarides, Crïwr tref Y Gelli Gandryll

"Mae o wedi bod yn wendid ac mi rydw i'n trio fy ngorau i wneud yn siŵr bod ymwelwyr yn clywed yr iaith ar strydoedd y dre wrth i mi wneud fy ngwaith," meddai George Tofarides.

"Ond dydi'r ŵyl ddim wedi gwneud digon yn y gorffennol, os ga'i ddeud yn blaen, ond mi wna i popeth y medra i, ac mae'r bos newydd yn d'eud ei bod hi am wrando."

Criw o bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg fydd yn cynhyrchu deunydd am yr ŵyl ar y cyfryngau cymdeithasol - Instagram, Twitter a TikTok - fel rhan o'r rhaglen Hay Academy.

Disgrifiad o’r llun,

Gwion Ifan, Steffan Alun Leonard a Beth Williams o'r Hay Academy

"Dwi wedi fy synnu rili," meddai Beth Williams o Gaernarfon, "ro'n i'n actually disgwyl cwpl o stondinau mewn cae, ond mae o'n rili neis."

Aelod arall o'r criw ydy Steffan Alun Leonard o Dreforys, Abertawe.

"Mae o yn her i ddenu pobl newydd oherwydd y ddelwedd sydd gan rai yn barod, ond mae 'na ddigwyddiadau efo pobl fel Stormzy a Dua Lipa sy'n ein helpu ni o ran ein swydd ni yma, ond mae'n rhaid edrych ar y trends ac mae'n rhaid gwneud mwy o waith edrych arnyn nhw i weld be' mae pobl isho," meddai.

Ffynhonnell y llun, Sam Hardwick

Mae Gwion Ifan o Landysul yn gwerthfawrogi ymdrechion yr ŵyl i gyflwyno gweithgareddau sy'n cynnig cyfleoedd newydd.

"Mae'n amhrisiadwy oherwydd mae gŵyl fel Hay ddim yn rhywbeth dwi wedi bod i o'r blaen," meddai.

"Bydde fe'n annheg dweud bod dim byd Cymraeg yma ond falle bod dim llawer o sylwedd, mae 'da ni lwyfan Cymru ond dim digwyddiadau unswydd yn y Gymraeg."

Bydd yr ŵyl yn para tan 4 Mehefin ac mae'r trefnwyr yn dweud gyda dros 500 o ddigwyddiadau unigol bod rhywbeth yn Y Gelli at ddant pawb.