Gŵyl y Gelli: 'Angen cyrraedd mwy o bobl Gymraeg'
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Gelli dywed un awdures ei bod hi'n bechod nad yw'r ŵyl "wedi manteisio digon ar gyrraedd pobl Gymraeg na sydd fel arfer yn ymweld".
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal yn rhithiol am yr eildro oherwydd cyfyngiadau y pandemig.
Ar raglen Newyddion dywedodd Anni Llŷn: "Mae'n bechod ofnadwy nad yw Gŵyl y Gelli wedi gweld cyfle eleni i fanteisio ar gyrraedd pobl na fuasai'n gallu mynd iddi fel arfer.
"Mae wastad lle i wella o ran cael digwyddiadau Cymraeg eu hiaith. Ma' 'na deimlad Cymreig o ran y pethau sydd wedi'u cynnal yna - ond mae lle i wella o hyd.
"Dwi'n gobeithio bo nhw'n gallu defnyddio'r ochr rithiol i fanteisio a chyrraedd cynulleidfa newydd a phobl Gymraeg na fyddai'n mynd fel arfer."
Dod â'r byd i Gymru
Wrth ymateb i sylwadau tebyg ar raglen Bethan Rhys Roberts ddydd Sul dywedodd Guto Harri, un o gyfarwyddwyr Gŵyl y Gelli, mai'r nod yw dod â'r byd i Gymru.
"Un o'r pethau sydd wedi tanseilio natur Gymraeg yr ŵyl yw ei bod yn cyd-daro yn draddodiadol gydag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac mae llawer o bobl a fyddai'n mynd i'r Gelli yn cael eu denu gan Brifwyl yr Urdd - mae hynna wastad wedi bod yn her," meddai.
"Dyw'r mix ddim wastad yn plesio pawb ond mae yna wastad tipyn o ddigwyddiadau Cymraeg a Chymreig. Mae gynnoch chi nifer o ddarlithoedd sydd wedi'u henwi ar ôl pobl yng Nghymru gydag un ychwanegol eleni sef darlith Jan Morris.
"Bydd nifer o Gymry fel Gillian Clarke, Rob Brydon, Colin Jackson, Julia Gillard (Cymraes a fu'n Brif Weinidog Awstralia) yn cymryd rhan heb anghofio am Mererid Hopwood.
"Mae 'na Gymreictod ond nid dyna'r unig beth mae Gŵyl y Gelli yn ceisio ei wneud yn y pen draw."
Dywed Trystan Hardy sy'n byw yn lleol ei fod e'n colli bwrlwm yr ŵyl yn y dref yn ofnadwy.
"Gan mai tref y llyfrau yw'r Gelli, mae peidio cael y llyfrau a'r ŵyl lenyddol yn golled anferth," meddai.
"Mae'r siopau llyfrau, caffis a'r bwytai yn cael budd o'r holl bobl sy'n dod i'r dref."
"Y festival yw'r adeg mwyaf prysur o'r flwyddyn i ni," meddai Dolan Haycox sy'n berchen ar dafarn a gwesty yn Y Gelli, "felly fe fyddwn ni'n falch i'w gweld yn ôl flwyddyn nesaf achos mae'n dda i'r dref a'i busnesau. Mae'n good i'r dref. Mae'r dref yn llawn am ddeg diwrnod - sai'n lico bod hebddi ond gobeithio bydd hi nôl flwyddyn nesaf."
Ychwanegodd Guto Harri bod hi'n haws cael pobl o bedwar ban byd i siarad yn rhithiol ond ei fod yn teimlo fod pobl yn siarad yn fwy agored pan maent ar lwyfan yr ŵyl.
Bydd sylw arbennig yn cael ei roi eleni i'r llwybr allan o Covid ac i gynhadledd COP26 yn Glasgow ym mis Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2020
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2018