Ad-daliad o £10 i gwsmeriaid Dŵr Cymru ar ôl gwall data

  • Cyhoeddwyd
tapFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ofwat wedi lansio ymchwiliad i'r camgymeriadau data

Bydd cwsmeriaid Dŵr Cymru yn derbyn ad-daliad o £10 ar eu bil nesaf wedi i'r cwmni gyfaddef iddo wneud camgymeriadau wrth adrodd data ynglŷn â gollyngiadau a defnydd dŵr.

Mae Ofwat - sy'n rheoleiddio'r diwydiant dŵr - wedi lansio ymchwiliad, ar ôl i'r cwmni eu hysbysu nhw o'r sefyllfa.

Mae prif weithredwr Dŵr Cymru wedi ymddiheuro a dweud ei fod yn "siomedig fod hyn wedi digwydd".

Roedd adolygiad mewnol wedi darganfod "diffygion" o ran prosesau goruchwylio llywodraethiant a rheolaeth yn ymwneud ag adrodd data.

Darganfuwyd bod gollyngiadau dŵr o isadeiledd y cwmni yn digwydd ar lefel "uwch nag a nodwyd yn wreiddiol", tra bod ffigyrau ynglŷn â defnydd cwsmeriaid o ddŵr yn is.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y sychder yn amlwg ledled Cymru yn haf 2022, fel yma yng Nghronfa Llwyn-onn ym Mannau Brycheiniog

Daw hyn ddyddiau wedi i Dŵr Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'r awdurdodau amgylcheddol, annog y cyhoedd i fod yn gall wrth ddefnyddio dŵr, er mwyn osgoi ailadrodd cyfyngiadau sychder haf y llynedd eto yn y dyfodol.

Dywedodd Ofwat eu bod wedi lansio ymchwiliad gorfodaeth, yn ymwneud â chywirdeb y wybodaeth a adroddwyd gan y cwmni.

Mae'r rheoleiddiwr yn gosod targedau perfformiad ar gyfer pob cwmni dŵr yn ymwneud â gollyngiadau, a defnydd dŵr fesul cwsmer.

Mae'r cwmnïau'n cael eu hasesu yn unol â'r targedau yma yn flynyddol ac yn gallu cael eu cosbi neu eu gwobrwyo ar sail eu perfformiad.

Dywedodd David Black, prif weithredwr Ofwat, y byddai'r ymchwiliad yn ystyried "yr amodau arweiniodd at y cwmni'n adrodd perfformiad anghywir, a pha gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r ffaeleddau".

"Ry'n ni'n cydnabod i Dŵr Cymru ddod aton ni pan sylweddolon nhw'r problemau gyda chywirdeb eu data," ychwanegodd.

Pryd gai'r £10?

Bydd pob cwsmer oedd â chyfrif byw gyda Dŵr Cymru ar 31 Mawrth 2023 yn derbyn £10 o ad-daliad.

Dywedodd y cwmni bod trefnu taliad o'r fath ar gyfer pob cartref a busnes yn "her sylweddol" ond mai'r bwriad oedd sicrhau bod pawb wedi'i dderbyn o fewn y chwe mis nesaf.

Byddai cwsmeriaid yn gweld y £10 oddi ar eu bil nesaf.

Os oes gennych chi fesurydd dŵr, yna fe fydd hyn yn ymddangos o fewn chwe mis.

Os nad oes gennych chi fesurydd dŵr yna fe fydd yn ymddangos ar y bil ry'ch chi'n ei dderbyn ym mis Chwefror/Mawrth 2024.

Dywedodd Dŵr Cymru bod eu prosesau sicrwydd mewnol wedi datgelu'r pryderon yn wreiddiol a bod y rhain wedi cael eu "hadolygu'n llawn dros y 15 mis diwethaf gyda chymorth arbenigwyr annibynnol".

Cyfanswm y gollyngiadau ar gyfer 2021/22 oedd 240.3 miliwn litr y diwrnod o gymharu â'r 157.4 miliwn litr y diwrnod a nodwyd yn wreiddiol.

Mae hyn gyfwerth â 8.6m3 y km o brif bibellau y dydd, gyda ffigyrau cwmnïau eraill yn amrywio o rhwng 4.5m3/km/dydd (Anglian Water) ac 18.7 m3/km/d (Thames Water).

Fe ostyngodd y ffigyrau o ran defnydd dŵr y pen o 174.7 o litrau y dydd yn y data gwreiddiol i 154.8 o litrau y dydd.

Mae ffigyrau ar gyfer cwmnïau eraill yn amrywio o 131.5 o litrau y dydd (Yorkshire Water) i 160.3 o litrau y dydd (Portsmouth Water), gan olygu bod Dŵr Cymru ymysg y cwmniau a'r ffigyrau uchaf o ran faint mae cwsmeriaid yn ei ddefnyddio bob dydd.

Mae'r cwmni wedi cyhoeddi £54m yn ychwanegol o fuddsoddiad i daclo gollyngiadau, gan gynyddu'r cyfanswm y mae'n ei wario rhwng 2020 a 2025 ar hyn i £284m.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Peter Perry fod y cwmni wedi gwneud y 'newidiadau angenrheidiol'

Dywedodd Peter Perry, prif weithredwr Dŵr Cymru, er taw nhw wnaeth ganfod y broblem, yn y pen draw roedd yn cydnabod fod "yna ddiffygion yn ein prosesau goruchwylio llywodraethiant a rheolaeth a ganiataodd i hyn ddigwydd yn y lle cyntaf".

"Rydyn ni wedi gwneud y newidiadau angenrheidiol o ran ein dulliau o adrodd ar ollyngiadau, ac wedi cau'r bylchau yn ein prosesau adrodd a llywodraethu," meddai.

Yn ôl Emma Clancy, prif weithredwr Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW) y byddai'r "ad-daliad o £10 yn mynd beth o'r ffordd tuag at dawelu meddyliau cwsmeriaid fod Dŵr Cymru yn difaru'r difrod y bydd hyn wedi achosi i ymddiriedaeth pobl" yn y cwmni.

"Mae'n gysur hefyd gweld i'r cwmni adnabod y problemau yma eu hunain drwy eu prosesau sicrwydd," meddai.

"Bydd cwsmeriaid yn awyddus i weld y cwmni yn cymryd y camau cywir i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.

"Mae'n ymchwil ni yn dangos bod gollyngiadau o gwmnïau dŵr yn effeithio ar y gallu i ysgogi cwsmeriaid i arbed dŵr."

Pynciau cysylltiedig