Cymorth biliau dŵr i filoedd o gwsmeriaid ar incwm isel

  • Cyhoeddwyd
Bil Dwr Cymru

Bydd rhagor o gwsmeriaid ar incwm isel yn cael help gyda'u biliau wrth i gwmni Dŵr Cymru fuddsoddi arian yn ystod yr argyfwng costau byw.

Daw hyn wrth i'r cwmni gyhoeddi eu bod wedi gwneud elw gweithredol (cyn treth a llog) o £81m y llynedd o'i gymharu â £7m yn y flwyddyn flaenorol.

Bydd 50,000 o aelwydydd sydd "mwyaf agored i niwed yn yr argyfwng costau byw" yn elwa o fuddsoddiad gwerth £12m y flwyddyn nesaf.

Mae'r cwmni nid-er-elw yn darparu i 1.3 miliwn o gwsmeriaid ar draws Cymru ac yn cefnogi nifer o gartrefi yn barod.

Ond dywedodd y prif weithredwr eu bod am ehangu'r cymorth yn ystod "amser anodd".

Yn ôl y cwmni, mae 127,000 o'u cwsmeriaid eisoes yn derbyn gostyngiad i'w biliau trwy dariffau cymdeithasol.

Dywedon nhw eu bod yn gallu cynnig cymorth tymor byr yn ogystal â chynnig cyngor i gwsmeriaid.

Ddydd Llun, fe gyhoeddodd y cwmni eu bod wedi parhau i fuddsoddi bron i £1m y dydd yn eu gwasanaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedon nhw eu bod nawr yn gweithio gyda sefydliadau i adnabod a chefnogi cwsmeriaid a allai fod yn gymwys i gael gostyngiad ar filiau.

Argyfwng costau byw

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry, bod y cwmni'n "falch bod gennym rai o'r lefelau uchaf o ymddiriedaeth cwsmeriaid yn y sector".

"Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ein cwsmeriaid a'u cymunedau, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn wrth i aelwydydd ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

"Drwy ddarparu dros £12m ar gyfer ein cynllun tariffau cymdeithasol eleni yn unig, gallwn gefnogi aelwydydd incwm isel sy'n ei chael yn anodd talu eu biliau.

"Dylai unrhyw un sy'n pryderu am sut y gallan nhw dalu eu biliau dŵr gysylltu â ni cyn gynted ag y gallan nhw i drafod pa gymorth a allai fod ar gael iddynt."

Pynciau cysylltiedig