Myfyrwyr sy'n gofalu am eraill 'angen mwy o help'
- Cyhoeddwyd
Cyn hir bydd Fayeth Jones o Sir Ddinbych yn llunio cais i fynd i'r brifysgol, ac mae hi â'i bryd ar fynd i astudio seicoleg yn Llundain.
Ymhlith y blychau bydd hi'n eu ticio ar ei ffurflen UCAS, mae 'na un pwysig iawn - y bocs sy'n dweud bod ganddi gyfrifoldebau gofal.
Adref yn Y Rhyl, mae Fayeth - sy'n 17 - yn edrych ar ôl ei mam, sydd ag epilepsi, a'i chwaer, sydd â lwcemia - a hefyd yn delio ag epilepsi ei hun.
Felly dydy gadael ei bro ddim yn benderfyniad hawdd.
"Dwi'n edrych ymlaen i gael hoe a bod i ffwrdd o bob dim, ond dwi'n poeni hefyd am fod mor bell i ffwrdd," meddai.
"Mae gen i dipyn o gyfrifoldeb adre' gyda fy chwaer a'm mam, ac weithiau dwi'n meddwl y byddai'n well i fi aros yn lleol a dod o hyd i swydd yn lle mynd i'r brifysgol a gwneud be' dwi eisiau gwneud.
"Ond mae 'na bobl o'm cwmpas i sy'n dweud y dylwn i fynd amdani… A dwi'n gwybod bod 'na bobl yma fydd yn cefnogi fy nheulu os oes angen."
Iechyd meddwl
Mae angen i brifysgolion gynnig mwy o gymorth a chydlynu gyda gwasanaethau eraill fel bod gofalwyr sydd yn y brifysgol yn codi eu huchelgais ac yn llwyddo, yn ôl elusen Credu Cymru.
Daw wrth i ddata cychwynnol newydd gan UCAS ddangos bod myfyrwyr sy'n ofalwyr yn fwy tebygol o fod â phroblemau iechyd meddwl neu anabledd eu hunain.
Mae'r ystadegau yma ar gael eleni am y tro cyntaf, gan mai myfyrwyr sy'n dechrau eu cwrs yn 2023 yw'r llwyth cyntaf i gael yr opsiwn o nodi bod ganddyn nhw gyfrifoldebau gofalu ar eu ffurflen gais UCAS.
Yn ôl y canfyddiadau cynnar, maen nhw 73% yn fwy tebygol o fod â thrafferthion iechyd meddwl o'i gymharu â myfyrwyr yn gyffredinol.
Maen nhw hefyd 67% yn fwy tebygol o fod ag anabledd corfforol neu drafferthion symud, a dwywaith yn fwy tebygol o fod â dau neu fwy o gyflyrau.
Casgliad arall o'r ystadegau ydy bod gofalwyr yn fwy tebygol o ymgeisio i fynd i brifysgol yn nes at adref, ac yn llai tebygol o wneud cais i'r colegau mwyaf breintiedig.
Aeth Emma Walker, sy'n 24 ac o Abergele yn Sir Conwy, i'r brifysgol yn Cheltenham, Sir Caerloyw, a chael gradd mewn astudiaethau plentyndod.
Mae hi hefyd yn ofalwr i'w mam - sy'n byw gyda sglerosis ymledol (MS) - ac mae ganddi sawl cyflwr ei hun.
"Mae gen i epilepsi, awtistiaeth a dwi'n cael trafferthion iechyd meddwl fel iselder a gorbryder," meddai.
"A phan o'n i'n y brifysgol, ges i ddiagnosis o PTSD cymhleth.
"Roedd hi'n eitha' anodd bod yn y brifysgol efo hynna i gyd yn digwydd.
"Mi ges i gefnogaeth y DSA - lwfans myfyrwyr anabl - ac fe wnaeth hynny adael i fi gael pethau fel argraffwyr, gliniadur, a meddalwedd i recordio darlithoedd.
"Ond roedd hi'n broses eitha' hawdd os o'n i angen mynd adref gan fod 'na argyfwng neu beth bynnag - cyn belled 'mod i'n dal i fyny efo'r gwaith, roedden nhw'n deall."
'Llawer ddim yn deall'
Er hynny, pan oedd Emma'n ymgeisio i fynd i'r brifysgol, doedd 'na ddim opsiwn i ddweud wrth UCAS eich bod chi'n ofalwr - ac mae hi'n teimlo nad oedd pawb yn ymwybodol cymaint o gyfrifoldebau oedd ganddi adref.
"Dwi'n gobeithio y bydd 'na fwy o ddealltwriaeth am y pwnc, achos mae'n rhywbeth dydy llawer o bobl ddim yn deall mewn gwirionedd.
"Mae rhai'n meddwl 'o, mae hi jyst yn gwneud gwaith tŷ, mae'n gwbl normal' - ond y realiti ydy mai nid gwaith tŷ ydy gofalu, mi ydach chi'n gyfrifol am rywun arall, ac mae'n gyfrifoldeb mawr."
Mae hi'n credu y gallai prifysgolion cynnig mwy o help.
"Fe allai 'na fod gymdeithasau o fewn prifysgol ac undebau myfyrwyr yn benodol i ofalwyr, neu ofalwyr gydag anabledd, neu phawb gyda'i gilydd.
"Wedyn mi fyddai rhywun fel fi yn gwybod nad ydw i ar fy mhen fy hun yn y brifysgol, a bod 'na bobl eraill fel fi sy'n cael trafferthion ac sy'n ofalwyr, ac fe allwn i siarad efo nhw."
Yn ôl elusen Credu Cymru, sy'n gweithio gyda gofalwyr yn y gogledd a'r canolbarth, mae'r data gan UCAS yn tanlinellu'r angen am fwy o gefnogaeth ac anogaeth ar ofalwyr yn y sector addysg uwch.
"'Dan ni'n gobeithio, unwaith maen nhw wedi rhoi tic yn y bocs yna, eu bod nhw [y prifysgolion] yn edrych ar be' fedran nhw wneud i helpu," meddai Sonia Penlington, sy'n gweithio i'r elusen.
"A phan maen nhw yna i edrych rownd, maen nhw'n gallu dweud pwy sydd yna i'w helpu nhw."
Ymhlith y mesurau sydd o fudd, meddai, mae'r hyblygrwydd i adael i ofalwyr gael amser i ffwrdd, i fynd â ffôn i ddarlithoedd neu arholiadau, neu i gael cyflwyno gwaith yn hwyrach.
Ond mae Credu'n galw hefyd am fwy o gydlynu rhwng gwasanaethau i helpu pobl ifanc sydd - tra yn y brifysgol - yn colli ffordd rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion.
"'Dan ni efo dipyn o ffordd i fynd, ond dwi'n meddwl fasen ni fel elusen yn gallu lincio i fyny hefyd, a gwneud reciprocal arrangement efo plant sy'n dod i'r ardal yma sy'n ofalwyr, a'u helpu nhw tra maen nhw yn y brifysgol yma," meddai Sonia.
Targedu cymorth yn well
Ym Mhrifysgol Bangor, mae myfyrwyr sy'n ofalwyr yn cael cynnig bwrsariaeth - ac yn ôl Wendy Williams o'r tîm cefnogi myfyrwyr, mae dros 40 yn derbyn y cymorth yma ar hyn o bryd.
Ond mae'n credu bydd derbyn data gan UCAS am ddarpar fyfyrwyr yn eu galluogi nhw i dargedu cymorth yn well i fwy o bobl sydd ei angen.
"Mae cael unrhyw ddata cyn i fyfyrwyr gychwyn yn y brifysgol yn ddefnyddiol dros ben i ni - mae'n golygu ein bod ni'n gallu cadarnhau a rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr cyn cychwyn," meddai.
Dywedodd Prifysgolion Cymru - y corff sy'n cynrychioli'r sector - bod cymorth eang ar gael ond bod 'na waith ar ôl i'w wneud.
I bobl fel Fayeth Jones draw yn Y Rhyl - sy'n bwriadu ymgeisio yn yr hydref am le yn y brifysgol - mae'r hawl i ddweud ei bod yn ofalwr cyn cychwyn yn rhoi cysur.
"Mae'n rhoi gymaint mwy o hyder i fi ynghylch teithio yn bell i'r brifysgol achos mae'n dangos bod pobl yn ymwybodol ac yn deall sut beth ydy bod yn ofalwr ifanc," meddai.
"Mae o'n gwneud rhywun yn ffyddiog y byddan nhw'n gallu rhoi cefnogaeth i fi i wneud fy ngwaith tra'n parhau i ofalu os ydy rhywbeth yn mynd o'i le adre."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018