Ysgolion a chynghorau 'ddim yn adnabod' gofalwyr ifanc

  • Cyhoeddwyd
Gofalwr ifancFfynhonnell y llun, Thinkstock

Dyw ysgolion ac awdurdodau lleol ddim yn ymwybodol bod degau o filoedd o blant yng Nghymru yn ofalwyr ifanc, yn ôl elusen.

Mewn astudiaeth o wyth ysgol fe wnaeth Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ganfod pedair gwaith y fwy o ofalwyr ifanc na'r hyn roedden nhw'n ei ddisgwyl.

Yn ôl yr elusen, mae gofalwyr ifanc yn colli tua 48 diwrnod ysgol pob blwyddyn ac yn cael canlyniadau gwaeth yn eu TGAU ar gyfartaledd.

Dywedodd corff arolygu addysg Estyn eu bod ar fin cynnal adolygiad ar y mater.

Ond yn ôl yr elusen mae angen rhagor o arian i gefnogi gwasanaethau lleol sy'n helpu gofalwyr ifanc.

'Effeithio ar gyfleoedd'

Dywedodd Kate Cubbage o'r elusen bod cyfrifoldeb gofalu yn gallu bod yn bositif i nifer o bobl ifanc, gan ddatblygu sgiliau a phrofiadau "dyw eraill ddim yn eu cael".

Ond rhybuddiodd y gall gael effaith ar gyrhaeddiad a phresenoldeb yn yr ysgol.

"Mae'n gallu effeithio ar eu graddau, eu cyfleoedd mewn bywyd o ran mynd ymlaen at addysg bellach, yn ogystal â'u hiechyd meddwl a'u hyder," meddai.

"Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod awdurdodau lleol ac ysgolion yn cydweithio i adnabod beth sydd ei angen ar ofalwyr ifanc i'w helpu i lwyddo."

Stori Stuart a Carwyn

Disgrifiad,

Mae Carwyn Gumm yn gofalu am ei dad, sy'n gaeth i'w gartref am gyfnodau hir ar ôl dioddef anhwylder iechyd meddwl

Mae Stuart Gumm, 52, yn gaeth i'w gartref am gyfnodau hir ar ôl dioddef anhwylder iechyd meddwl bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd y gŵr o Dalywain ger Pont-y-pŵl yn Nhorfaen bod y gofal gan ei fab 12 oed, Carwyn, wedi achub ei fywyd.

"Mae'n frwydr barhaol erbyn rhywbeth sy'n rheoli fy meddwl," meddai Stuart.

"Fe allwn ni fod wedi gadael y byd 'ma ar y dyddiau tywyll hynny, ac fe fyddwn i wedi oni bai am fy nheulu. Dyna pam mae Carwyn mor arbennig, a pam 'mod i'n ei garu gymaint.

"Mae'n cydnabod beth sydd o'i le pan fo neb arall yn gallu. Mae'n cydnabod y cyfnodau tywyllaf ac yn fy ngwneud yn benderfynol i frwydro 'mlaen."

I Carwyn, mae siarad am salwch ei dad yn anodd, a dywedodd nad yw'n deall pam fo pawb yn credu bod yr hyn mae'n ei wneud mor arbennig.

"'Dwi'n weithiau'n teimlo bod dad ddim yn ymddwyn fel mae e'n arferol, ac yn meddwl i'n hun 'dyw rhywbeth ddim yn iawn'," meddai.

"'Dwi eisiau iddo deimlo'n well, ac weithiau rwy'n ceisio anghofio am y peth, ond dyw hi ddim mor hawdd â hynny."

Yn ôl Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod 7,000 o ofalwyr ifanc yng Nghymru.

Ond mae eu hymchwil yn awgrymu y gallai'r ffigwr go iawn fod tua phedair gwaith y nifer hynny.

'Degau o filoedd'

Dywedodd Ms Cubbage eu bod yn credu y gallai fod yna "ddegau o filoedd o ofalwyr ifanc sydd heb gael eu hadnabod gan ysgolion neu awdurdodau lleol ac mae'r potensial yno i wneud mwy".

Ychwanegodd nad oes data dibynadwy ar nifer y gofalwyr ifanc am ei bod mor anodd eu hadnabod.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn darparu £36,000 i'r ymddiriedolaeth dros y flwyddyn nesaf i helpu adnabod gofalwyr, a chynnig rhagor o gefnogaeth iddynt.

Bydd y llywodraeth hefyd yn helpu'r ymddiriedolaeth i ddatblygu cardiau adnabod i ofalwyr yng Nghymru, i sicrhau eu bod yn cael mynediad at ofal cymdeithasol pan fo'r angen.