Pwysau ariannol yn 'rhwystro gofalwyr rhag cael addysg'

  • Cyhoeddwyd
Lucy a Patricia PrenticeFfynhonnell y llun, Lucy Prentice
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lucy Prentice yn gofalu am ei mam, Patricia

Mae pwysau ariannol yn rhwystro gofalwyr ifanc rhag cael mynediad i addysg neu hyfforddiant llawn amser, yn ôl elusen.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Crossroads Sir Gâr yn dweud bod cyfreithiau cyfredol yn gwneud bywyd yn anoddach fyth i grŵp o bobl sydd eisoes dan anfantais.

I hawlio Lwfans Gofalwr mae'n rhaid gwarchod unigolyn am dros 35 awr yr wythnos, ond dyw'r rheiny sy'n astudio am dros 21 awr yr wythnos ddim yn gallu ei hawlio.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cydnabod ei bod hi'n bwysig i ofalwyr gadw cysylltiad â'r byd addysg a chyrraedd eu llawn botensial.

'Mynd i ddyled'

Ers ei bod yn 11 oed mae Lucy Prentice wedi gofalu am ei mam.

Ar ôl dwy flynedd, bu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w hastudiaethau yng Ngholeg Sir Gâr oherwydd byddai'n colli ei Lwfans Gofalwyr wythnosol o £64.60.

Yn ôl y rheolau doedd Lucy, sy'n 20 oed, ddim yn gallu astudio a pharhau i gael cymorth ariannol.

Bellach mae Lucy wedi ymuno ag ymgyrch i alw am newid yn y gyfraith sy'n effeithio ar ofalwyr ifanc.

Ar ôl cael ymlediad (aneurism) yn ei hymennydd dyw ei mam Patricia, 50, ddim yn gallu symud yn ystwyth. Mae hi hefyd yn cael cyfnodau o bryder difrifol a theimlo'n benysgafn.

Yn ogystal â gwneud yr holl waith tŷ, roedd Lucy'n gorfod mynd â'i mam i'w hapwyntiadau ac roedd hynny'n ychwanegol i'w hastudiaethau coleg.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Lucy Prentice roi'r gorau i'w hastudiaethau yng Ngholeg Sir Gâr

Petai hi wedi parhau yng Ngholeg Sir Gâr am drydedd flwyddyn, byddai wedi astudio dros yr uchafswm o 21 awr yr wythnos ac felly'n colli ei lwfans.

Mae ei mam yn derbyn budd-daliadau gwerth tua £300 y mis ond mae'r Lwfans Gofalwyr yn hanfodol i dalu am wresogi eu cartref, ac am gar Lucy.

"Mae'n fendith," meddai Lucy. "Dwi'n gallu prynu eitemau personol a phethau sydd eu hangen arnai. Hefyd, mi aethon ni i drafferth gyda chostau gwresogi.

"Mi aethon ni i ddyled ar ôl llenwi'r tanc olew ar gyfer y gwres canolog. Roedd cael y Lwfans Gofalwyr wedi ein galluogi ni i gael gwared ar y ddyled.

"Mae gan fy mam wendid ar ei hochr chwith, dyw hi ddim yn gallu sefyll neu gerdded am gyfnod hir, dwi'n gorfod ei helpu hi. Mae hi'n bryderus iawn ac yn gwrthod gadael y tŷ hebdda i.

"Dwi'n helpu i dalu'r biliau, mynd i apwyntiadau gyda hi ac ar ddyddiau drwg dwi'n gwnselydd iddi."

Breuddwydion

Mae'r rheolau'n ymwneud â lwfansau gofal yn berthnasol i'r rhai mewn addysg ôl-16, sy'n cynnwys gofalwyr mewn chweched dosbarth a cholegau.

I fod yn gymwys, mae'n rhaid bod dros 16 oed ac yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos.

"Byddwn wrth fy modd yn mynd nôl i'r coleg ond allai ddim fforddio colli'r arian," meddai Lucy.

Ffynhonnell y llun, Lucy Prentice
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lucy Prentice yn breuddwydio am sefydlu ei busnes ei hun, ond yn dweud ei bod yn poeni am ei dyfodol

Roedd hi wedi gobeithio cael gyrfa yn y diwydiant gofal, a sefydlu busnes ei hun gan agor canolfan ar gyfer anifeiliaid wedi eu hachub.

"Dwi'n poeni am fy nyfodol - dwi ddim ishe hawlio Lwfans Ceiswyr Gwaith," ychwanegodd.

"Dwi'n poeni na fyddai'n cael swydd dda nac yn ennill arian da. Ry'n ni'n ei chael hi'n anodd nawr i gadw dau ben llinyn ynghyd - dwi ddim ishe hyn i barhau yn y dyfodol."

Mae Melanie Rees-Lewis, o Ymddiriedolaeth Gofalwyr Crossroads Sir Gâr, yn dweud bod angen i'r gyfraith newid.

"Mae gofalwyr ifanc yn wynebu digon o rwystrau sy'n ymwneud ag addysg oherwydd eu cyfrifoldebau," meddai.

"Fel cymdeithas, mae angen i ni ddileu rhwystrau a'u helpu i ddatblygu gyrfaoedd a chael yr un cyfleoedd â phobl ifanc eraill."

'Arwyr'

Dywedodd yr AC Ceidwadol Suzy Davies, ei bod am weld gofalwyr ifanc sy'n colli eu lwfans gofal yn cael taliad o £60 yr wythnos.

Mae'n cynnal digwyddiad i dynnu sylw at y mater yn Llanelli ddydd Llun.

Mae Ms Davies am weld y lwfans ar gyfer myfyrwyr ôl-16 sydd ar incwm isel yn dod i ben, gyda'r arian yn cyfrannu at gynllun newydd fyddai'n galluogi gofalwyr ifanc i gael mynediad i addysg llawn amser.

"Mae ein gofalwyr ifanc yn arwyr, sydd ddim yn cael eu gwerthfawrogi er eu bod nhw'n cadw teuluoedd gyda'i gilydd ac yn cymryd y straen o ofalu am aelodau teulu bregus," meddai.

'Pwysig cyrraedd llawn botensial'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Ry'n yn gwerthfawrogi y gwaith hanfodol sy'n cael ei wneud gan ofalwyr wrth gefnogi y bobl mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

"Ry'n hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i ofalwyr gadw eu cysylltiad gyda'r system addysg a chyrraedd eu llawn botensial.

"Mae'n bosib i ofalwyr astudio am 21 awr bob wythnos a derbyn Lwfans Gofalwyr.

"Mi all gofalwyr sy'n derbyn addysg llawn amser fod yn gymwys i gael cefnogaeth ariannol arall drwy'r system cynhaliaeth addysg."