Tair cenhedlaeth Y Talwrn

  • Cyhoeddwyd
talwrn

Mae rhaglen Talwrn y Beirdd wedi bod yn rhan bwysig o wasanaeth BBC Radio Cymru ers 1979, gyda beirdd o bob cornel o'r genedl yn diddanu'r cynulleidfaoedd.

Ond eleni mae tîm gwahanol i'r arfer yn cymryd rhan yn y gornestau, gan fod gan Dîm Beca dair cenhedlaeth o'r un teulu ymysg eu rhengoedd; Rachel, Rhiannon a Lefi. Bydd Tîm Beca'n ymddangos ar Y Talwrn am 19:00 ar Ddydd Sul, 4 Mehefin.

Siaradodd BBC Cymru Fyw gyda Rhiannon Iwerydd, sydd yn ferch i Rachel, ac yn fam i Lefi Dafydd.

"Mae'r tîm wedi bod yn mynd ers sbel, ond 'nes i ymuno yn eitha' diweddar, tua chwe blynedd yn ôl," meddai Rhiannon.

Mae pum aelod i gyd yn Nhîm Beca, gyda'r ddau aelod arall tu hwnt i deulu Rhiannon hefyd yn byw yng ngorllewin Cymru.

"Aelodau eraill y tîm yw Eifion Daniels ac Wyn Owens - maen nhw wedi bod yn barddoni ers degawdau," esboniai Rhiannon. "Mae Wyn yn dod o ardal Mynachlog-ddu ac mae Eifion mwy o ochre Crymych, felly mae'r tîm yn dod o ardal eitha' eang.

"Dwi'n dod o ardal Eglwyswrw - ges i fy magu yma a dwi wedi dod nôl yma yn hwyrach 'mlân."

Disgrifiad o’r llun,

Tîm Beca; Rhiannon, Lefi, Eifion Daniels, Wyn Owens a Rachel

Barddoni yn y gwaed

"Mae barddoni wedi bod yn rhan o fy mywyd erioed. Roedd Mam mor greadigol a dwi'n ei chofio hi'n barddoni ac yn dweud straeon pan oedden ni'n blant."

Yn ogystal â mam a mab Rhiannon sy'n cystadlu yn y talwrn, roedd aelod arall o'r teulu yn arfer gwneud hefyd.

"Roedd Dad yn arfer cynganeddu hefyd fel Mam, ac roedd e'n cystadlu yn y talwrn hefyd," meddai Rhiannon.

"Roedd Mam a Dad mewn tîm arall yn yr 1970au ac 1980au, ond 'nath Mam stopio am gyfnod tra roedd hi'n brysur gyda phethau eraill. Yn fwy diweddar 'nath hi ddechrau dosbarthiadau cynganeddu gyda Wyn Owens, ac fe ymunodd hi â Thîm Beca tua 10 mlynedd yn ôl."

Disgrifiad o’r llun,

Rhiannon gyda'i mam, Rachel

Dechrau'n ifanc

Ac yntau'n gystadleuydd ifanc mae Rhiannon yn dweud bod ei mab, Lefi, yn ymddiddori mewn barddoniaeth fel aelodau eraill y teulu.

"Lefi ydi fy mhlentyn hynaf, mae'n 16 oed ac yn y chweched dosbarth. Roedd e yn y rownd gyntaf o'r Talwrn ond doedd e ddim yn yr ail oherwydd ei fod e'n fisi gydag arholiadau.

"Mae Lefi wastad 'di bod â diddordeb mewn iaith a geiriau - hyd yn oed yn yr ysgol gynradd. Mae e bellach yn ennill tlysau am sgwennu straeon a cherddi yn lleol. Ar ôl gorffen ei Lefel A mae e eisiau gwneud Astudiaethau Celtaidd a gweld dipyn o'r byd.

"Nath e (Lefi) ddechrau barddoni yn ystod Covid pan 'nath Yr Urdd ddechre Talwrn y Beirdd i blant ysgol, a 'nath e fwynhau hynny mas draw. Roedden nhw'n cael mentoriad fel Gruff Owen, ac gan bod Lefi 'di cael gymaint o hwyl a llwyddiant 'nath e ystyried y byddai'n gallu gwneud y Talwrn i oedolion."

Themâu teuluol?

Gyda thair cenhedlaeth o'r un teulu mewn tîm Talwrn, ydi hynny'n golygu eu bod ymdrin â'r un themâu?

"Mae Mam yn gyfforddus gyda natur yn ei cherddi, a dwi'n credu am mod i wedi fy magu ble roedd natur yn bwysig roedd geirfa natur 'da ni.

"Dwi'n gweld y byd rhywffordd drwy natur hefyd fel Mam, ond dwi ddim yn siŵr am Lefi, efallai bod e ychydig yn wahanol."

Mae'n edrych fel bod yr awen farddonol yn saff yn y teulu yma o Eglwyswrw am flynyddoedd i ddod, ac fe allwch glywed y cystadlu o'r Talwrn ar wefan BBC Radio Cymru.

Hefyd o ddiddordeb: